Cyrraedd ar y trên ar gyfer slot symud i mewn a archebwyd o flaen llaw: Dydd Gwener 22 i ddydd Sadwrn 23 Medi.
Yn ystod y prif gyfnod cyrraedd, o ddydd Gwener 22 i ddydd Sadwrn 23 Medi, bydd gwasanaeth bws am ddim ar gael i fyfyrwyr sy'n cyrraedd ar drenau i Aberystwyth. Bydd y gwasanaeth hwn yn mynd â chi o'r orsaf drenau i'r man casglu allweddi ar gyfer eich neuadd. Gadewch yr orsaf wrth yr allanfa yn syth ymlaen (ar ddiwedd y platfform), lle bydd ein gwirfoddolwyr Tîm-A (mewn crysau-t coch) yn eich cyfeirio at y bws.
Os ydych wedi archebu i gyrraedd yn ystod y slotiau 'y tu allan i oriau', dilynwch y canllawiau a nodir yn yr adran isod.