Pan fyddwch yn cyrraedd

Beth ddylech chi wneud pan rydych yn cyrraedd y Brifysgol.

Parcio

Yn ystod cyfnod y Croeso Mawr byddwch yn gallu parcio ar y campws, heb drwydded, er mwyn dadlwytho eich eiddo a symud i mewn i lety’r Brifysgol. 

Mae’r lleoedd parcio gerllaw’r llety yn gyfyngedig ac felly, yn ystod y prif gyfnod pan fydd myfyrwyr yn cyrraedd, byddwn yn cyfyngu’r amser parcio yn yr ardaloedd hyn i uchafswm o 20 munud er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i’r holl fyfyrwyr. Wedi ichi orffen dadlwytho eich eiddo gofynnwn ichi symud eich car i ardal barcio arall yn un o’r meysydd parcio dynodedig ar gyfer cyfnodau hwy o amser. Bydd aelodau o staff wrth law ar y safle i’ch cynorthwyo i barcio.

I gael gwybod mwy am barcio ar y campws, ac i wneud cais am drwydded os oes hawl gennych wneud hynny, ewch i’n tudalennau gwe am Barcio.

Pecynnau Bwyd a Diod

Gallwch nawr fanteisio ar ein cynnig prydau hyblyg arbennig 'Bwytewch gyda ni, siopwch gyda ni', hyd yn oed os ydych yn byw mewn llety hunanarlwyo neu dai preifat yn y dref! Gallwch fwyta beth yr hoffech, pryd bynnag yr hoffech ac o ble bynnag yr hoffech, o brydau poeth i Starbucks wrth fynd neu brynu cynhwysion i goginio eich hun. Am fwy o wybodaeth gweler ein tudalen Pecynnau Bwyd a Diod.

Undeb y Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i adloniant byw, clybiau a chymdeithasau, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.

Fel rhan annibynnol o’r Brifysgol, dan arweiniad myfyrwyr, mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cynrychioli myfyrwyr ac yn darparu amrywiaeth o wasanaethau amrywiol a chynhwysol a fydd yn cyfoethogi eich bywyd fel myfyriwr. Mae'r rhain yn cynnwys cyngor, hyfforddiant, datblygu sgiliau, cyfleoedd gwirfoddoli, cyflogaeth a gwasanaethau eraill sy'n hybu cynhwysiant, cyfeillgarwch a datblygiad personol.

Sbort Aber

Lleolir y Ganolfan Chwaraeon ar gampws Penglais sy’n cynnig ystod eang o gyfleusterau dan do ac awyr agored. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys pwll nofio, pum campfa ddynodedig, wal ddringo, stiwdio ddawns sy’n lleoliad i nifer o ddosbarthiadau ymarfer corff, cae pêl-droed 3G, phabell ymarfer corff awyr agored a dau drac rhedeg 400m.

Mae’r holl fyfyrwyr sy’n byw mewn llety prifysgol yn cael mynediad am ddim i’r Ganolfan Chwaraeon gan gynnwys yr ap ymarfer ‘Wexer’ ar-lein drwy aelodaeth Platinwm y Myfyrwyr. Gall unrhyw fyfyrwyr, os nad ydynt yn byw mewn llety prifysgol, fwynhau’r cyfleusterau am £135 y flwyddyn.

Cymdeithasau a’r Clybiau Chwaraeon

Os oes gennych ddiddordeb i glywed mwy am Gymdeithasau neu Gybiau Chwaraeon, gallwch ymuno â’r rhestr bostio o 1af o Awst ymlaen drwy’r wefan Undeb y Myfyrwyr – dyma le fydd y newyddion diweddaraf, digwyddiadau ar gyfle i ymuno gyda’r grŵp. 

Dilynwch y ddolen i weld rhestr y Cymdeithasau

Dilynwch y ddolen i weld rhestr y clybiau Chwaraeon

Cerdyn Disgownt TOTUM

Adnabyddir cerdyn TOTUM yn wreiddiol fel NUS, yn gerdyn disgownt #1 i fyfyrwyr sy’n cynnig dros 200 o ostyngiadau i fyfyrwyr y D.U.. gyda ISIC am ddim yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r cerdyn ar gael i’w ddefnyddio mewn 130 o wledydd gyda dros 42,000 o ostyngiadau rhyngwladol.

Dyma’r unig gerdyn disgownt a gymeradwywyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth.

https://www.totum.com/