Achrediad Graddau
13 Ionawr 2020
Mae Rhaglen Achrediad y Sefydliad Mathemateg a’i Gymwysiadau (IMA) yn achredu rhaglenni gradd prifysgolion mewn Mathemateg.
Yn dilyn adolygiad diweddar o ddarpariaeth yr adran, mae ein cynlluniau gradd sengl wedi cael ei hail achredu gan y Sefydliad.
Bydd graddedigion o’n graddau MMath mewn Mathemateg a Ffiseg Damcaniaethol a Mathemategol yn cyrraedd y gofynion addysgiadol ar gyfer y Mathemategydd Siartredig (CMath).
Bydd myfyrwyr sy’n graddio gydag un o’r graddau BSc canlynol yn cyrraedd gofynion addysgiadol Mathemategydd Siartredig ar ôl blwyddyn ychwanegol o hyfforddiant a phrofiad:
BSc (Anrhydedd) Mathemateg (gan gynnwys y cynlluniau gyda blwyddyn sylfaen neu flwyddyn mewn diwydiant)
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Gymhwysol a Mathemateg Bur
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Gymhwysol ac Ystadegaeth
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Bur ac Ystadegaeth
BSc (Anrhydedd) Mathemateg Ariannol (gan gynnwys y cynllun â blwyddyn sylfaen)
BSc (Anrhydedd) Ffiseg Damcaniaethol a Mathemategol
BSc (Anrhydedd) Mathemateg a Ffiseg
BSc (Anrhydedd) Mathemateg gydag Addysg
Bydd pob myfyriwr sy’n dechrau gradd rhwng 2020 a 2024 yn cael budd o’r achrediad.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tiwtor derbyn, Dr Gwion Evans.