Astudio dramor

Llong yn hwylio i harbwr Sydney

Ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch amrywiaeth cyffrous o opsiynau i fynd tramor fel rhan o’ch gradd: o gyrsiau byr a chyfleoedd i wirfoddoli yn yr haf, i semester neu flwyddyn lawn dramor yn astudio eich dewis bwnc yn un o’n prifysgolion partner.

Os ydych chi’n astudio gradd Mathemateg neu Wyddor Data gyda blwyddyn ddiwydiannol integredig, gallwch ddewis treulio rhan neu’r cyfan o’ch blwyddyn mewn diwydiant dramor i gwblhau eich lleoliad gwaith.

Mae adroddiadau’n dangos bod myfyrwyr sy’n astudio dramor yn fwy deniadol i gyflogwyr ac yn ennill mwy na’u cymheiriaid. Gall amser a dreuliwch yn dysgu am ddiwylliant newydd gyfoethogi eich sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, gwella eich gallu iaith ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Pam na fanteisiwch chi ar gyfle oes a gwella eich sgiliau beirniadol drwy ddewis astudio dramor?

Gwybodaeth am ble y gallwch fynd fel myfyriwr yn yr Adran Mathemateg.