Mathemateg gyda Blwyddyn Sylfaen
28 Mai 2015
O fis Medi 2015 ymlaen, bydd yr Adran yn cynnig blwyddyn sylfaen mewn Mathemateg. Mae’r flwyddyn sylfaen yn cynnig mynediad i fathemateg ar lefel gradd ar gyfer y rheiny sydd heb y cymhwysterau arferol mewn Mathemateg. Gall y rhain gynnwys myfyrwyr aeddfed sydd heb astudio mathemateg i safon uwch, neu rai sy’n dymuno newid llwybr gyrfa. Mae’r flwyddyn sylfaen hefyd yn addas i’r rheiny sydd heb y gofynion priodol ar gyfer ein graddau eraill, ac yn defnyddio addysgu mewn grwpiau bach er mwyn ymdrin â’r cefndir mathemategol angenrheidiol. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau blwyddyn sylfaen yn mynd ymlaen i ddilyn y cynllun gradd anrhydedd mewn Mathemareg, gan arwain at gymhwyster BSc (Anrhydedd) mewn pedair blynedd. Cysylltwch â’r tiwtor derbyn, Dr Gwion Evans, am fwy o wybodaeth.