Nataliia mewn Gwersyll Modelu
04 Hydref 2024
Fe wnaeth Nataliia Adukova, myfyriwr PhD o’r Adran Fathemateg, fynychu Gwersyll Modelu ar gyfer graddedigion yn Sefydliad Isaac Newton yng Nghaergrawnt yn ddiweddar. Mae’r gwersyll yn cynnig profiad ymarferol i fathemategwyr gyrfa gynnar o fodelu mathemategol o heriau byd go iawn mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.
Cafodd Nataliia a’i grŵp y dasg o "Ganfod Data Ffug trwy Ganfod Anomaleddau". Fe wnaeth ei thîm ddatrys y broblem o ganfod data sain ffug: cawsant recordiadau o lyfr sain naill ai wedi’i ddarllen gan berson real neu wedi ei gynhyrchu gan rwydwaith niwral dwfn. Defnyddiodd y tîm ddau ddull i wahaniaethu rhwng y data sain real a ffug: dadansoddi pwyntiau brig y tonffurf am anomaleddau, a thrawsffurfiad (Fourier) o’r don er mwyn dwysau’r gwahaniaethau rhwng data real a ffug.
Dywedodd Nataliia “Wnes i erioed feddwl y buaswn i’n gallu dysgu cymaint mewn wythnos. Er bod y myfyrwyr ar ein tîm i gyd o gefndiroedd gwahanol, nid oedd yna unrhyw arbenigwyr yn y dasg benodol hon. Roedd yn ddiddorol iawn defnyddio ein sgiliau i ddatrys her yn y byd go iawn, ac i brofi cymhwysiad ymarferol o wybodaeth”.
Mae Nataliia yn gweithio ar y prosiect EffectFact sy’n cael ei gydlynu yn Aberystwyth.