Graddio Mathemateg 2024
19 Gorffennaf 2024
Dyfarnir Gwobr Pennington ar gyfer Mathemateg Bur, er cof am yr Athro Barry Pennington, Pennaeth Mathemateg Bur 1961-1968, am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Bur i John Aaltio, Trys Hooper, George Lee, o’r flwyddyn MMath, ac i Shubh Joshi a Patrik Liba o’r cyrsiau tair blynedd.
Dyfarnwyd Gwobr O.L. Davies ar gyfer Ystadegaeth, er cof am yr Athro Owen Davies, Pennaeth Ystadegaeth 1968-1975, i Kiara Kearney am y perfformiad gorau mewn Ystadegaeth.
Dyfarnwyd Gwobr V.C. Morton am berfformiad eithriadol mewn Mathemateg, er cof am Prof. Vernon Morton, Pennaeth Mathemateg Bur, 1923-1961, i Charlotte Bankes.
Dyfarnwyd Gwobr T.V. Davies Prize ar gyfer Mathemateg Gymhwysol, er cof am yr Athro T.V. Davies, Pennaeth Mathemateg Gymhwysol 1958-1967, i Rachel Seaborne am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Gymhwysol.
Mae Gwobr Clive Pollard ar gyfer Mathemateg wedi’i henwi ar ôl cyn-fyfyriwr wnaeth raddio mewn Mathemateg Bur yn 1972. Dyfarnwyd y wobr eleni i Felicity Penrose ac Alicia Southern am eu perfformiad da yn y semester olaf.
Mae George Lee a Trys Hooper hefyd yn derbyn gwobrau gan y Sefydliad Mathemateg a’i Gymwysiadau (Institute of Mathematics and its Applications, IMA) am y perfformiad gorau yn gyffredinol.
Mae gwobrau hefyd wedi cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd ddim yn eu blwyddyn olaf; fe fyddwn yn llongyfarch y myfyrwyr yma pan fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.