Gofynion Asesu
Athroniaeth Addysgu (300 o eiriau)
Datganiad adfyfyriol ar eich ymarfer yw hwn sy’n ymdrin â’ch athroniaeth ynghylch dysgu ac addysgu mewn addysg uwch. Dylai ymdriniaeth â’r llenyddiaeth hefyd fod wedi’i phlethu i’r darn ysgrifenedig.
Taith Fyfyriol (1000 o eiriau)
Bydd y gwaith hwn ar ffurf testun clytwaith. Bydd y myfyriwr yn dangos sut y mae, dros amser, wedi datblygu ei sgiliau dysgu ac addysgu drwy hunan-ddadansoddi, sesiynau DPP (12 awr) ac adfyfyrio ar ei addysgu a chefnogi dysgu eraill. Dylai ymdriniaeth â’r llenyddiaeth hefyd fod wedi’i phlethu i’r darn ysgrifenedig.
Arsylwi gan gymheiriaid ar addysgu (200 o eiriau x 3)
Arsylwir ar y myfyrwyr unwaith gan eu mentor, unwaith gan gyd-fyfyriwr ar y rhaglen, ac unwaith gan dîm y rhaglen AUMA.