Mae'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal sawl Cynllun Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth i gydnabod y gweithgareddau dysgu ac addysgu rhagorol sy'n digwydd yn y Brifysgol. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’n cynlluniau Gwobrwyo a Chydnabod, cysylltwch â ni (udda@aber.ac.uk). 

Cynllun ARCHE - Cymrodoriaethau’r Advance HE

"Mae cymrodoriaeth Advance HE yn dangos ymrwymiad i broffesiynoldeb ac yn cydnabod ymarfer, effaith ac arweinyddiaeth mewn addysgu a dysgu." (Advance HE). 

Mae cynllun PA wedi'i achredu gan Advance HE, sy'n caniatáu i’r Brifysgol ddyfarnu statws Cymrawd Cyswllt, Cymrawd, ac Uwch Gymrawd.  Nid oes ffioedd yn gysylltiedig â cheisiadau drwy gynllun PA ac nid oes angen adnewyddu neu ailymgeisio yn barhaus am statws cymrawd. 

Meini Prawf:

Mae'r gymrodoriaeth yn seiliedig ar dystiolaeth o ymarfer sy'n cwrdd â'r Fframwaith Safonau Proffesiynol.  Mae'n agored i ystod eang o staff yn y Brifysgol sy'n addysgu neu'n cynorthwyo’r dysgu mewn addysg uwch.  Bydd gwahanol gategorïau o gymrodoriaethau yn berthnasol i wahanol grwpiau o staff. 

Y Broses:

Gwneir cais i Gynllun ARCHE drwy gais portffolio yn seiliedig ar arfer presennol. Gellir gwneud cais gan gydweithwyr, myfyrwyr neu trwy hunan-enwebiad.  Caiff pob cais ei ystyried gan adolygwyr mewnol a'i gadarnhau gan banel sy'n cynnwys Arholwr Allanol.  Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn statws cymrawd a thystysgrif.

Rhagor o wybodaeth: Cynllyn ARCHE - Cymrodoriaethau’r Advance HE

Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu (CATE) 

Diben y Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu (CATE) yw cydnabod a dathlu gwaith ar y cyd sydd wedi cael effaith amlwg ar ddysgu ac addysgu. Bydd pob gwobr yn cydnabod tîm sydd wedi galluogi newid mewn arferion ar gyfer cydweithwyr neu fyfyrwyr ar lefel sefydliadol neu ddisgyblaethol.

Caiff y cynllun ei drefnu a'i redeg gan Advance HE. Dim ond un tîm y gellir ei enwebu o'r Brifysgol.

Bydd hyd at 15 o dimau'n cael eu dewis yn genedlaethol i dderbyn y wobr hon.

I gael rhagor o wybodaeth am y wobr, gweler tudalen we AU Ymlaen (dolen) neu cysylltwch â Annette Edwards (aee@aber.ac.uk). 

Gwobr Cwrs Nodedig

Cydnabyddiaeth fewnol yw’r Wobr Cwrs Nodedig a gynlluniwyd i gydnabod a dathlu cyrsiau sy'n esiamplau o arferion gorau mewn dysgu ar-lein a dysgu cyfunol.  Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu digidol o ansawdd uchel i fyfyrwyr amrywiol y Brifysgol.

Meini Prawf:

Mae'r cyrsiau sy'n gymwys ar gyfer y Wobr Cwrs Nodedig yn dangos eu bod yn arloesi wrth ddysgu ar-lein, yn defnyddio technoleg yn effeithiol, ac yn ymrwymo i lwyddiant myfyrwyr.  Maent yn arddangos creadigrwydd wrth ddylunio a chyflwyno cyrsiau, gan feithrin amgylchedd dysgu ar-lein sy’n hoelio’r sylw ac yn gefnogol.

Y Broses:

Gall cydweithwyr gyflwyno eu cyrsiau i'w hystyried, gan gynnig tystiolaeth o sut mae eu cwrs yn bodloni'r meini prawf.  Bydd panel o arbenigwyr yn asesu'r cyflwyniadau, ac bydd y cyrsiau llwyddiannus yn cael cydnabyddiaeth ffurfiol, tystysgrif, a'r cyfle i rannu eu harferion gorau gyda'r gymuned academaidd ehangach.

Rhagor o wybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/blackboard/blackboard-exemplary-course-award/

Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ffurfiwyd yn 2010, wedi’i sefydlu ei hun fel academi genedlaethol Cymru. Ein Cymrodyr yw craidd yr hyn yr ydym ni, ac mae ein Cymrodoriaeth bellach yn cynnwys dros 600 o’r arweinwyr a’r academyddion mwyaf anrhydeddus yn eu meysydd. Maent yn rhychwantu pob disgyblaeth, o’r byd academaidd hyd at fusnes a gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn fyd-eang o ran eu lleoliad, ond yn unedig o ran eu cysylltiad â Chymru a’u dyhead i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi cymdeithas yng Nghymru. (Cymdeithas Ddysgedig Cymru: Strategaeth 2023 – 2028)

 

Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich enwebu ar gyfer Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC) neu sydd â diddordeb mewn cynnig cydweithiwr? 

 

Mae gan Gymrodyr CDdC gysylltiad â Chymru, ac fe'u hetholir i gydnabod eu rhagoriaeth a'u cyfraniad eithriadol i fyd dysgu. Mae'r Gymrodoriaeth yn rhychwantu'r gwyddorau, y dyniaethau, y celfyddydau a gwasanaethau cyhoeddus ac mae croeso i enwebiadau gan enwebeion o bob diwylliant, cefndir ac ethnigrwydd. 

 

Mae'r broses enwebu yn agored i academyddion ac unigolion proffesiynol sy'n bodloni'r meini prawf enwebu.  Mae'r enwebiad yn cael ei wneud gan gynigydd a'i gefnogi gan eilydd, y mae'n rhaid i'r ddau ohonynt fod yn Gymrodyr yr CDdC.  Mae manylion yr enwebiad a'r broses etholiadol ar wefan CDdC

Mae'r ffenestr enwebu bellach ar agor ar gyfer y flwyddyn hon.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Hydref 2024. Ewch i dudalennau gwe amrywiol CDdC a pharatoi'r gwaith papur enwebu erbyn y dyddiad cau cyflwyno. 

 

Os ydych yn teimlo bod angen help arnoch i gysylltu enwebai â Chymrodyr CDdC neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y gefnogaeth y gall y brifysgol ei rhoi i chi, cysylltwch ag Annette Edwards, aee@aber.ac.uk 

Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol (CCAC) 

Pwrpas y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol (CCAC) yw cydnabod, gwobrwyo a dathlu unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol ar ganlyniadau myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu.

Trefnir y CCAC gan Advance HE. Mae pob darparwr Addysg Uwch yn y DU yn gymwys i gofrestru hyd at dri aelod o staff sy'n addysgu neu'n cefnogi dysgwyr yn eu sefydliad. Mae angen i'r rhai a enwebir ddangos eu bod yn cyfrannu at wella profiad myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu yn eu sefydliad, neu yn fwy eang, yn eu disgyblaeth.

Dylai enwebai fod yn gymrawd AAU (unrhyw gategori) neu'n gweithio tuag at gais.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y dyfarniad hwn, gweler tudalen we (dolen) neu cysylltwch â Annette Edwards (aee@aber.ac.uk). 

Cynlluniau eraill

Mae adrannau eraill yn cynnal cynlluniau gwobrwyo a chydnabod gwahanol, megis: 

  • Fframwaith Goruchwylio
  • Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol