Sesiwn blasu: Hanes Celf Cymru: Portreadau

Sesiwn blasu: Hanes Celf Cymru: Portreadau (Cod Cwrs CA209)

Fel cyflwyniad i astudiaeth o gelf Cymru, gan ganolbwyntio ar bortreadau, gallwn naill ai ddewis edrych ar ddelweddau o ffigurau Cymreig enwog neu ar ddelweddau a luniwyd gan artist Cymreig. Ceir llawer o ddelweddau i ddewis o’u plith, yn enwedig o’r casgliad helaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, felly fel tamaid i aros pryd cyn cychwyn ar y modiwl, byddwn yn edrych yn agosach ar Miss Vulcana!

Delwedd: Kate Roberts – Miss Vulcana c1895 hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Argraffiadau cyntaf:

  • Hi yw’r ffigur canolog yn y cyfansoddiad, gyda llinellau llorweddol a fertigol cryf yn cyferbynnu â ffurf feddalach, fwy crwn y ffigur
  • Geiriau a ddaw i’r meddwl y tro cyntaf y gwelwch chi’r ffotograff - nodwch fod yr ystum yn drawiadol, yn wynebu’r gwyliwr, yn gryf ac yn fygythiol, yn heriol hyd yn oed. Mae’n ystum dynol yn hytrach nag un a fyddai’n nodweddiadol i wraig fonheddig o Oes Fictoria
  • Mae cefnlen y lleoliad yn blaen ond yn y blaendir ceir briciau a theils o’i hamgylch wrth iddi sefyll ar y grisiau
  • Mae’r dillad yn awgrymu rhywun o fyd y llwyfan, y syrcas neu’r ffair efallai? Dim ond y breichiau, y gwddf a’r pen sydd heb eu gorchuddio ond mae siâp y wisg dywyllach ar y top yn awgrymu ystum beiddgar. Cyferbyniad diddorol gyda’r gardys dan y pen-glin!
  • Y pwnc - mae hi’n fenyw ifanc ddeniadol iawn, sy’n ymddangos yn eithaf ‘modern’ gyda gwallt byr diffwdan yn hytrach na gwallt hir cyrliog oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod. Mae cyfrannedd diddorol i’r ffigur yn gyffredinol - a fyddai’r cyfrannedd yn edrych yn anghywir pe bai mewn paentiad yn hytrach na ffotograff? Er enghraifft hyd y coesau mewn perthynas â rhan uchaf y corff.

Trafodaeth: Pwy yw’r fenyw hon?

Tybir y byddai gwylwyr cyfoes (o leiaf yng Nghymru) yn ei hadnabod oherwydd ei bod wedi cael tynnu ffotograff proffesiynol. Fel rydym ni wedi nodi, mae’r wisg yn awgrymu’r llwyfan neu berfformiad cyhoeddus felly gallwn ni ragdybio rhywfaint o enwogrwydd neu ddrwg-enwogrwydd - ond gochelwch rhag rhagdybio gormod o osgo neu wisg y sawl sy’n eistedd oherwydd roedd yn gyffredin i bobl wisgo fel cymeriadau hanesyddol neu o’r llwyfan ar y pryd.

Hon yw Miss Vulcana – “gwraig gref chwedlonol Cymru”! Roedd yn byw yn y Fenni gyda’i gŵr William Roberts, oedd yn rhedeg campfa leol i fenywod, a chafodd chwech o blant yn ystod eu hanner can mlynedd gyda’i gilydd. Roedd ganddi ddiddordeb byw mewn iechyd menywod a dywedwyd nad oedd yn hoffi staesys. Byddai hi’n perfformio ar lwyfan, gan godi dyn uwch ei phen ag un llaw, ac mae sôn iddi gynnal dau geffyl, a’u gwastrodion, ar fwrdd oedd yn gorwedd ar ei stumog wrth iddi blygu am yn ôl! Yn amlwg, roedd yn haeddu ei theitl mawreddog.

Tasgau:

  • Ymchwiliwch ei chefndir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ynghyd ag unrhyw ffynonellau cyfeiriol eraill (fel hanes y neuadd gerdd) y dewch ar eu traws. Os na allwch fynd i’r llyfrgell, edrychwch ar y ddelwedd ar lein os yw’n bosibl.
  • Cymharwch ei phortread â ffotograff nodweddiadol o’r cyfnod, fel “Portread o Hen Wraig” c1885 sy’n gwisgo gwisg draddodiadol gydag osgo sy’n awgrymu urddas a gwyleidd-dra.

Casgliadau

  • Mae portread ffotograffig yn dal tebygrwydd gwirioneddol y sawl sy’n eistedd, sy’n golygu y byddai eu cyfoeswyr yn eu hadnabod. Ond cofiwch hefyd fod gofyn i’r eisteddwr aros yn gwbl lonydd am beth amser ar gyfer enghreifftiau cynnar fel y ffotograff hwn felly roedd yr ystumiau’n edrych yn annaturiol o lonydd.
  • Byddai’r osgo a’r eitemau sy’n ffurfio’r cefndir yn cael eu dewis yn ofalus i adlewyrchu elfen o gymeriad yr unigolyn. Yn yr achos hwn, mae’r wisg hefyd yn rhan hanfodol o bersona Miss Vulcana.
  • Gallech chi ystyried a fyddai modd cipio hwn gystal mewn paentiad yn hytrach na ffotograff. Pa arddull fyddai’n effeithiol – yr arddull Gyntefig Gymreig gynnar efallai, neu arddull Augustus John neu William Roos? I Kate Roberts, mae’n ymddangos mai dyma’r cyfrwng delfrydol ar gyfer cyflwyno delwedd o wraig gref chwedlonol Cymru.
  • Bydd angen i chi ymchwilio i gefndir y portread yn ogystal â’i arsylwi’n ofalus – fel rydym ni wedi gweld, gall y sawl sy’n eistedd ddewis gwisg theatraidd nad yw o reidrwydd yn cynnig unrhyw gliwiau ynglŷn â phwy ydyn nhw.

 

Cyfeiriadau:

Casgliad ffotograffau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

- Portread Kate Roberts cyf NLW Acc No 200312819/12 New Photograph Album 3904

- Portread o Hen Wraig cyf JT/KK15

 Fishlock, Trevor “In this place”, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyhoeddwyd yn 2007 i ddathlu canmlwyddiant y Llyfrgell

- Kate Roberts - tudalen 156, plât 222

- Portread o Hen Wraig - tudalen 140, plât 188