Cymwysterau

 

Mae cwblhau ein cyrsiau rhan-amser yn llwyddiannus yn eich galluogi i ennill credydau y gellir eu defnyddio tuag at gymwysterau addysg uwch.


Y cymwysterau y gallwch astudio tuag atynt mewn Celf a Dylunio yw:

Tystysgrif Addysg Barhaus

Mae hwn yn ddyfarniad adrannol y byddwch chi’n ei gyflawni pan fyddwch yn ennill 120 credyd mewn un maes pwnc. 

Tystysgrif Addysg Uwch

Mae Tystysgrif Addysg Uwch (TAU) yn rhaglen rhan amser o gyrsiau byrion, sy’n dod i gyfanswm o 120 o gredydau, ac yn arwain at gymhwyster israddedig Prifysgol.

Mae'r TAU yn cynnwys 120 credyd ac mae ein cyrsiau'n amrywio o 5, 10 ac 20 credyd yr un. Mae gan bob TAU ei Fframwaith ei hun y cytunwyd arno gan y Brifysgol. Mae’r Fframwaith yn amlinellu'r cyrsiau sydd ar gael ac unrhyw gyrsiau penodol y mae'n rhaid eu hastudio er mwyn ennill y TAU (cyrsiau craidd).

Mae gan fyfyrwyr hyd at bum mlynedd i gwblhau'r TAU ac yn ystod y cyfnod hwn gallant astudio cyrsiau ar eu cyflymder eu hunain. Nid yw pob cwrs yn cael ei gynnig bob blwyddyn ond rydym yn sicrhau amrywiaeth eang bob tymor gan gynnwys o leiaf un cwrs craidd.

Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru ar y TAU ac yna byddwch yn talu wrth i chi astudio pob cwrs. Mae cost cyrsiau yn dibynnu ar eu lefel a'u gwerth credyd (mae modiwl 10 credyd yn costio £130) felly uchafswm cost y TAU yw £1560 (yn seliedig ar ffioedd 2024 - 2025). Gallwch gofrestru ar y TAU ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn - mae'n well gan rai myfyrwyr astudio ychydig o gyrsiau cyn ymuno â'r rhaglen TAU. Bydd unrhyw gyrsiau sydd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus yn cyfrif tuag at y cymhwyster terfynol.

Nid oes gan yr un o'n cyrsiau arholiadau – cynhelir asesiad myfyrwyr drwy aseiniadau wedi'u trefnu sy'n berthnasol i feysydd pwnc y cwrs. Gall aseiniadau gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, profion ar-lein, traethodau ymchwiliedig, cyfnodolyn gwaith ac ati

Dysgwch fwy am y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio

Ymgeisiwch ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio