Benthyca o'r Llyfrgell

Faint o eitemau y gallaf eu benthyg?

Categori benthyciwr Nifer o eitemau

Israddedigion
Myfyrwyr Dysgu o Bell
Myfyrwyr TAR
Staff
Uwchraddedigion (dysgu drwy gwrs ac ymchwil)

40

Aelodau Anrhydeddus/Staff sydd wedi ymddeol/Emeritws
Darllenwyr Cysylltiol
Defnyddwyr Mynediad SCONUL (Bandiau A, B a C)
Myfyrwyr Dysgu Cymraeg
Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes

10

 

Am ba hyd y gallaf fenthyca eitemau?

 

Eitem Cyfnod Benthyg Adnewyddu Awtomatig Ceisiadau

Llyfrau

1 wythnos*

Oes

Oes

Disgiau Amlbwrpas Digidol (DVDs)

1 wythnos

Oes

Oes

Llyfrau'r Casgliad TAR

(Mae gan y llyfrau hyn stribed gwyrdd ar y meingefn)

1 wythnos**

Oes

Oes

Benthyciadau offer

3 diwrnod

Na

Oes

Cyfnodolion a gedwir yn y Llyfrgell

Benthyciad dros nos drwy wneud cais Primo Na Oes

Cyfnodolion a gedwir yn y Stordy Allanol

1 wythnos

Oes

Oes

Traethodau hir

Dim modd eu benthyg

Na

Na

Deunydd Cyfeirio

Benthyciad 24 awr ar gyfer staff yn unig

Na

Na

Nodir: Mi fydd cyfnod benthyca gostyngol o 2 ddiwrnod yn cael ei osod os oes cais gan ddefnyddiwr arall ar gyfer yr eitem yn barod. Bwriad hyn yw sicrhau tegwch a chyfle i bob defnyddiwr fenthyg yr eitem. Mi fydd y dyddiad dychwelyd yn cael ei nodi pan fyddwch yn benthyg yr eitem.

*Gall myfyrwyr Dysgu o Bell fenthyg llyfrau am 4 wythnos. Bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu am 4 wythnos arall oni bai bod defnyddiwr arall yn gofyn amdanynt neu eu bod nhw wedi cyrraedd eu cyfnod benthyciad hiraf o 6 mis

**Gall myfyrwyr TAR ar leoliad fenthyg llyfrau o'r casgliad TAR drwy gydol eu cyfnodau ar leoliad. Pan nad ydynt ar leoliad, gall myfyriwr TAR fenthyg llyfrau o'r casgliad TAR am 2 wythnos.

Sut mae benthyg eitemau?

Mae angen eich Cerdyn Aber arnoch i fenthyg eitemau.

  • Gallwch fenthyca eitemau rydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw ar silffoedd y llyfrgell gan ddefnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth
  • Dylid gofyn am offer benthyca ymlaen llaw a byddwch yn derbyn ebost efo gwybodaeth am ble i gasglu.

A allaf adnewyddu fy menthyciadau llyfrgell?

Byddwn yn adnewyddu'ch benthyciadau yn awtomatig tan y canlynol:

  • gofynnwyd amdanynt gan ddefnyddiwr arall
  • maent wedi cyrraedd y cyfnod benthyca uchaf o 12 mis (4 wythnos ar gyfer benthyciadau offer)
  • mae eich cyfrif llyfrgell yn dod i ben.

Byddwch yn cael eich ebostio i roi gwybod i chi pryd mae angen dychwelyd eich eitemau, felly gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd.

Byddwch hefyd yn derbyn ebost misol yn nodi'r eitemau sydd gennych ar fenthyg.

 

 

Beth sy'n digwydd os yw defnyddiwr arall yn gofyn am eitem sydd gennyf ar fenthyg?

  • Os bydd defnyddiwr arall yn gofyn am eitem sydd gennych ar fenthyg byddwch yn cael eich e-bostio i roi gwybod i chi
  • Ni fydd yr eitem yn  cael ei hadnewyddu a bydd yn rhaid i chi ei dychwelyd erbyn y dyddiad/amser sy'n ddyledus, hyd yn oed os ydych i ffwrdd o'r campws.
  • Gallwch wirio'r dyddiad / amser dyledus ar Primo.
  • Os na fyddwch yn dychwelyd yr eitem erbyn y dyddiad/amser sy'n ddyledus, byddwch yn cael eich atal rhag benthyca unrhyw eitemau eraill hyd nes y caiff ei ddychwelyd.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn dychwelyd fy menthyciadau pan fyddant yn ddyledus?

  • Os na fyddwch yn dychwelyd eitem y gofynnwyd amdani gan ddefnyddiwr arall, byddwch yn cael eich rhwystro rhag benthyca unrhyw eitemau eraill hyd nes y bydd wedi'i dychwelyd. Unwaith y bydd yr eitem yn 14 diwrnod yn hwyr, bydd yn cael ei hystyried Ar Goll a byddwch yn cael eich anfonebu am gost lawn i ailosod yr eitem.
  • Os na fyddwch yn dychwelyd eich benthyciadau pan ddaw eich cyfrif llyfrgell i ben, byddwch yn cael eich anfonebu am gost lawn i ailosod yr eitem.
  • Os na fyddwch yn dychwelyd eich benthyciadau neu cysylltu â ni pan fyddant wedi cyrraedd cyfnod uchaf y benthyciad, byddant yn cael eu hystyried Ar Goll a byddwch yn cael eich anfonebu am gost lawn i ailosod yr eitem.  
  • Os na allwch ddychwelyd eich eitem erbyn y dyddiad a'r amser sy'n ddyledus, cysylltwch â ni.

Sut ydw i'n dychwelyd fy menthyciadau llyfrgell?

Beth ddylwn i ei wneud os yw llyfr sydd ei angen arnaf eisoes ar fenthyg? 

  • Os yw'r eitem sydd ei angen arnoch ar fenthyg, gallwch wneud cais amdano a phan gaiff ei ddychwelyd byddwn yn cadw'r eitem ar eich cyfer
  • Byddwn anfon e-bost atoch i'ch hysbysu bod yr eitem yn aros amdanoch.
  • Ni chaiff eitemau sydd â cheisiadau arnynt eu hadnewyddu ar gyfer y benthyciwr presennol a bydd yn rhaid eu dychwelyd erbyn y dyddiad / amser sy'n ddyledus.
  • Gallwch wirio statws eich ceisiadau wrth ddilyn y cyfarwyddiadau yma

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli eitem yr wyf wedi'i fenthyca?

  • Os ydych wedi colli eitem sydd allan ar eich cyfrif, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib.
  • Byddwn yn eich anfonebu am gost amnewid yr eitem ynghyd ag unrhyw ddirwyon a godir ar yr eitem.
  • Ar ôl inni godi anfoneb, ni fyddwch yn gallu benthyca eitemau ychwanegol nes ei bod wedi cael ei thalu .
  • Os yw'r eitem yn cael ei ganfod a'i ddychwelyd i'r llyfrgell yn ddiweddarach, byddwn yn ad-dalu'r gost amnewid.