Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Lleolir Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar y 4ydd llawr o adeilad y Gwyddorau Ffisegol ar gampws Penglais [lleoliad].
Mae’r Llyfrgell hon yn gartref i ddeunyddiau ar gyfer astudio mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg.
- Defnyddiwch y peiriant hunan ddychwelyd i ddychwelyd llyfrau.
- Mae'r ddesg ymholiadau wedi'i staffio rhwng 08:30 - 10:00 ddydd Llun, dydd Mawrth a Dydd Iau yn ystod y tymor.
- Gellir cael cymorth a chefnogaeth y tu allan i'r oriau hyn drwy:
- defnyddio Sgwrsiwch Nawr ar y dudalen yma
- e-bostio gg@aber.ac.uk
- Parchwch anghenion defnyddwyr eraill y Llyfrgell, a chadwch sŵn ac aflonyddwch i'r lleiafswm.
Nodyn atgoffa: Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch i ddefnyddio'r llyfrgell a'r mannau astudio