Loceri

Loceri

Mae loceri ar bob llawr o Lyfrgell Hugh Owen i fyfyrwyr eu defnyddio ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae’r loceri hyn:

  • yn rhad ac am ddim i'w defnyddio.
  • yn cael eu benthyca ar gerdyn Aber
  • ar gael i'w fenthyg am wythnos yn adnewyddu'n awtomatig hyd ddiwedd y tymor neu tan ddiwedd eich cyfrif benthyca, pa bynnag sy'n gynharaf.
  • i’w benthyca yn amodol ar y rheoliadau loceri a nodir isod.

Os hoffech ddefnyddio un o'r loceri hyn, gofynnwch wrth y Ddesg Ymholiadau ar Lawr D

Rheoliadau loceri:

  • Ni ellir storio unrhyw eitemau darfodus yn y locer. 
  • Ni ellir storio unrhyw eitemau peryglus yn y locer. 
  • Dim ond deunyddiau personol a deunyddiau llyfrgell y gellir eu cadw yn y locer. 
  • Rhaid i unrhyw eitemau llyfrgell Prifysgol Aberystwyth yn y locer fod wedi’u clustnodi i'r un unigolyn â'r locer. 
  • Bydd unrhyw ddefnyddiwr sy'n colli allwedd eu locer yn gorfod talu’r gost lawn am allwedd newydd.
  • Bydd gan staff y Gwasanaethau Gwybodaeth hawl i gael mynediad i'r locer yn rheolaidd bob amser a heb rybudd i'r defnyddiwr at ddibenion diogelwch, cynnal a chadw ac atgyweirio, chwilio am ddeunyddiau llyfrgell heb eu clustnodi ac unrhyw ddibenion eraill y bernir eu bod yn angenrheidiol. 
  • Ni fydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eitemau sydd wedi'u colli neu eu dwyn. 
  • Gall eich defnydd o’r locer gael ei ddiddymu os caiff ei ddefnyddio'n anghywir. 

Lefel D

 

Lefel E

 

 

 

Lefel F