Mannau astudio yn y Llyfrgell

Mae amrywiaeth o fannau ar gyfer astudio'n dawel, unigol ac astudio mewn grŵp yn Ystafell Iris de Freitas ac ar Lefelau E & F yn Llyfrgell Hugh Owen.

Lefelau E & F 

Study spaces in Level E & F

Mynediad

Nid oes angen archebu lle i ddod i astudio ar Lefelau E ac F, a gallwch bori'r casgliadau. 

Mae'n rhaid archebu'r ystafelloedd astudio grŵp a'r ystafelloedd astudio unigol o flaen llaw. 

Gwiriwch yr oriau agor cyn ymweld â'r llyfrgell gan eu bod yn amrywio, yn enwedig rhwng adeg tymor a gwyliau. Os na allwch ddod o hyd i amser sy'n ateb eich gofynion chi, ebostiwch ni ar gg@aber.ac.uk 

Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch i ddefnyddio'r mannau astudio

Sut mae cyrraedd Lefelau E ac F

Dewch i'r Llyfrgell trwy'r brif fynedfa ac i fyny'r grisiau ym mhen pellaf Lefel D:

Prif fynedfa'r Llyfrgell

 

  Ystafell Iris de Freitas 

Study spaces in Iris de Freitas

Dyma'r cyfleusterau sydd ar gael yn Ystafell Iris de Freitas ar hyn o bryd:

  • Mannau astudio unigol
  • Mannau astudio gyda chyfrifiaduron
  • 1 argraffydd/sganiwr
  • Man llenwi potel dŵr
  • 2 ystafell astudio unigol gyda chyfrifiaduron 
  • 3 ystafell astudio grŵp gyda chyfrifiaduron

Mynediad 

Nid oes rhaid archebu lle i astudio yn Ystafell Iris de Freitas ond mae'n rhaid archebu'r ystafelloedd astudio o flaen llaw.

Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch i ddefnyddio'r mannau astudio

Sut mae cyrraedd Ystafell Iris de Freitas

Dewch i mewn i'r Llyfrgell trwy'r brif fynedfa ac ewch i fyny i Lefel E. Trowch i'r dde wrth ddod o'r grisiau, ewch heibio'r ddwy ystafell astudio ac mi welwch fynedfa Ystafell Iris de Freitas trwy'r drws nesaf ar y dde

Cynllun llaw yn dangos y ffordd i IdF o Lefel E

AccessAble - Click for Accessibility Information