TipDigidol

Edrychwch ar ein TipDigidol wythnosol byr, a gynlluniwyd i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg. Darganfyddwch lwybrau byr bysellfwrdd defnyddiol, offer fel hidlwyr golau glas sy'n cefnogi eich lles digidol, a llawer mwy!

Mae sawl ffordd y gallwch ddilyn ein TipDigidol:

  • Gallwch chi roi nod tudalen ar y dudalen hon a bydd TipDigidol newydd yn ymddangos yma am 10yb bob dydd Mawrth yn ystod y tymor
  • Gallwch dderbyn hysbysiad e-bost pan fydd TipDigidol newydd yn cael ei bostio drwy danysgrifio i'n Blog Sgiliau Digidol.
  • Rydym hefyd yn cyhoeddi pob TipDigidol ar dudalennau Facebook ac Instagram y Gwasanaethau Gwybodaeth. Oddi yno, gallwch ddilyn ein hashnodau #TipDidigolPA #AUDigiTips

    TipDigidol 60: Pwerwch eich PowerPoint! ⚡

    Ydych chi erioed wedi cael trafferth cyflwyno eich PowerPoint ar-lein trwy rannu eich sgrin? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gyflwyno’n uniongyrchol o PowerPoint i Teams? Wel rydych chi’n gwybod nawr gyda ThipDigidol 60!  Pan fyddwch yn eich cyfarfod ac yn barod i rannu eich sleidiau – dewiswch y botwm “present in Teams” yn eich […]

    TipDigidol 59: Cofiwch yfed digon o ddŵr gyda’r ap My Water 💧 

    Ydych chi’n anghofio yfed digon o ddŵr yn y Brifysgol neu yn y gwaith? Dyma’r TipDigidol i chi. Mae yfed digon o ddŵr yn rhan bwysig o’ch lles gan ei fod yn dylanwadu ar faint o egni sydd gennych ac yn eich helpu i ganolbwyntio.  Mae gan My Water fersiwn am ddim a fydd yn […]

    TipDigidol 58: Rheoli eich Penawdau yn Word ⌨️

    Weithiau, gall cyfnewid o wahanol benawdau yn Word fod yn boen, ond gyda ThipDigidol 58 does dim rhaid iddo fod yn boen mwyach!   Defnyddiwch y llwybr byr syml: Ctrl + Shift + S i gyfnewid yn hawdd rhwng yr holl wahanol arddulliau pennawd sydd ar gael yn Word.   I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch […]

    Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd 🌲

    Heddiw – 21 Mawrth 2025 – yw Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd ac i ddathlu rydyn ni’n ailymweld â phob blogbost a ThipDigidol sy’n gysylltiedig â natur!

    TipDigidol 57: Cyfrif Data Penodol yn Excel 🔢

    Ydych chi eisiau cyfrif sawl gwaith mae enw’n ymddangos mewn colofn ochr yn ochr ag amodau eraill yn Excel? Gyda TipDigidol 57 gallwn ddangos y fformiwla i chi wneud hyn.  Yn gyntaf bydd angen data tebyg i’r hyn a ddangosir yn y sgrinlun lle mae gennych chi sawl colofn o wybodaeth a lle’r hoffech chi […]

    TipDigidol 56: PowerPoint Personol gyda Cameo 🎥

    Os ydych chi eisiau i’ch cyflwyniadau gyrraedd y lefel nesaf gallech geisio mewnosod cameo, dysgwch sut gyda ThipDigidol 56!  Cameo yw recordiad ohonoch chi’ch hun yn siarad trwy’ch sleidiau ac yn cyflwyno eich PowerPoint.   Gallwch weld sut i wneud hyn drwy’r fideo isod.  I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y […]

    TipDigidol 55: Modd ‘Focus’ yn Windows 11 ⏱️

    Ydych chi’n cael trafferth cwblhau eich gwaith? Mae gan DipDigidol 55 yr ateb gyda’r modd ‘Focus’ yn Windows 11. Mae’r modd ‘Focus’ yn nodwedd newydd ar gyfer Windows 11 sydd â nodweddion lluosog i’ch helpu i ganolbwyntio ar eich gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys: Amserydd y gellir ei osod i ba bynnag amser sydd ei […]

    TipDigidol 54: Triciau Google! 🤸🏻‍♀️

    Oeddech chi’n gwybod bod yna nodweddion wyau Pasg ar Google? Wel rydych chi’n gwybod nawr gyda ThipDigidol 54!  Os ydych chi’n mynd i Google a theipio “do a barrel roll” bydd y sgrin yn cylchdroi.   Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad cyflym. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen […]

    TipDigidol 53: Defnyddio Morph yn PowerPoint 🧑🏻‍💻

    Ydych chi am wneud eich cyflwyniadau PowerPoint yn fwy deinamig? Bydd TipDigidol 53 yn eich helpu i wneud hynny trwy ddefnyddio adnodd symud o un i’r llall yn PowerPoint o’r enw Morph a all sicrhau gwell llif i PowerPoint trwy roi trawsnewidiadau llyfn i siapiau a newid testun yn y sleidiau.  I ddilyn ein TipiauDigidol, […]

    TipDigidol 52: Llwyddo gyda llinell drwodd! ➖

    Ydych chi erioed wedi bod eisiau croesi rhywbeth allan yn Excel? Weithiau nid ydych am ddileu neu guddio’r celloedd. Mae gan Dipdigidol 52 lwybr byr cyflym i’ch helpu!  Yn syml, dewiswch y gell/celloedd perthnasol a defnyddiwch y llwybr byr: Ctrl + 5  I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen […]