Cam 2: Datblygu eich Sgiliau Digidol

Ar ôl ystyried eich sgiliau digidol, efallai y bydd meysydd penodol yr hoffech eu datblygu yn unol â'ch datblygiad personol.  Mae'r casgliadau isod o adnoddau PA ac adnoddau allanol wedi eu crynhoi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol ym mhob maes.

Llyfrgell Sgiliau Digidol

Mae'r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn cynnwys chwe chasgliad o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i helpu staff i ddatblygu eu sgiliau digidol, o wella lles digidol i ddefnyddio technoleg i greu syniadau newydd. 

Ewch i’r Llyfrgell Sgiliau Digidol

Mwy o Awgrymiadau Digidol

Mae'r Tîm Sgiliau Digidol hefyd yn cynhyrchu negeseuon blog, ffeithluniau a chyrsiau sy'n cynnwys mwy o awgrymiadau digidol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol. Mae'r rhain yn cynnwys awgrymiadau i helpu gyda'ch lles digidol, awgrymiadau Microsoft a nodweddion newydd i LinkedIn Learning!

I weld yr holl awgrymiadau eraill

Adnoddau Allanol Am Ddim

Ymhellach i'r adnoddau PA y mae'r Tîm Sgiliau Digidol wedi'u creu, eu curadu a'u casglu; mae yna lawer o adnoddau allanol y gallwch eu defnyddio i helpu i wella'ch sgiliau digidol. Edrychwch ar adnoddau fel Code First Girls a Free Code Camp.

I edrych ar adnoddau allanol am ddim