Ystyried a Thrafod eich Sgiliau Digidol
Gan gymryd y camau canlynol, ystyriwch beth yw sgiliau digidol a pha gamau y gallwch eu cymryd nesaf i ddatblygu eich sgiliau digidol.
Beth yw Sgiliau Digidol?
Dilynwch y cwrs byr hwn i ddysgu beth yw sgiliau digidol a pham eu bod yn bwysig i chi fel aelod o staff.
Pa Sgiliau Digidol ddylwn i eu cael?
Mae Jisc wedi datblygu cyfres o Broffiliau Rôl sy'n tynnu sylw at ba sgiliau digidol y dylai staff anelu i'w datblygu i ddod yn effeithiol yn eu rolau. Mae nifer o broffiliau rôl ar gael, gan gynnwys ar gyfer staff y Gwasanaethau Proffesiynol, ymchwilwyr, technolegwyr dysgu a darlithwyr.
Archebwch sesiwn 1:1
Mae'r Tîm Sgiliau Digidol yn cynnig sesiynau 1:1 ar gyfer staff sydd am drafod eu sgiliau digidol, gan gynnwys rhoi cyngor ar yr ystod o adnoddau a'r cyfleoedd sydd ar gael.
E-bostiwch ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch hyder presennol wrth ymdrin â thechnoleg, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol.