Cymorth i Staff Academaidd
Gweler isod adnoddau i gynorthwyo staff sy'n rhoi cymorth i fyfyrwyr gyda'u sgiliau digidol. Os oes gennych ymholiadau am yr adnoddau isod, e-bostiwch digi@aber.ac.uk.
Fframwaith [Sgiliau] Galluoedd Digidol Jisc
Yma yn Aberystwyth rydym yn cadw’n agos at fframwaith [Sgiliau] Digidol Jisc. Mae'r fframwaith yn nodi chwe phrif elfen sy'n ffurfio agweddau gwahanol ar sgiliau digidol unigolyn.
Mapio Cwricwlwm Sgiliau Digidol Jisc
Mae Jisc wedi datblygu dogfen i helpu staff academaidd i integreiddio sgiliau digidol yn eu cwricwlwm. Mae'r ddogfen hon yn cyd-fynd yn agos â Fframwaith [Sgiliau] Galluoedd Digidol Jisc a’r Proffil Dysgwyr, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau a'r arferion digidol angenrheidiol.
Mapio Technoleg Jisc
Er mwyn cynorthwyo staff i ymgorffori sgiliau digidol o fewn y cwricwlwm, mae Jisc wedi datblygu dogfen. Mae'r ddogfen hon yn cynorthwyo staff i nodi'r gwahanol offer sydd eu hangen i fodloni'r chwe phrif elfen a amlinellir yn Fframwaith [Sgiliau] Galluoedd Digidol Jisc.
Hanfodion Digidol GG ar gyfer Dysgu
Safle ar Blackboard yw Hanfodion Digidol GG ar gyfer Dysgu sydd wedi'i gynllunio i gefnogi staff dysgu newydd a staff newydd y gwasanaethau proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth trwy roi cyngor ac adnoddau allweddol gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Os nad ydych yn gallu cael gafael ar y cwrs, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol ar digi@aber.ac.uk.
Cadwch Lygad ar y Diweddaraf
Am fwy o wybodaeth amdanon ni fel tîm a’n gwaith ar hyn o bryd - edrychwch ar yr holl ffyrdd y gallwch gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.