Adnoddau i gynorthwyo’ch myfyrwyr
Mae gennym ddetholiad eang o adnoddau ar gael i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol yn annibynnol. Gweler isod rai o'r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr.
Adnoddau i ddatblygu sgiliau digidol myfyrwyr
Edrychwch ar adran ein myfyrwyr ‘Cam 3: Datblygu eich Sgiliau Digidol’ i weld pa adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr i helpu i ddatblygu eu sgiliau digidol.
Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion
Gweld cyfres o gyfweliadau gyda graddedigion Prifysgol Aberystwyth am eu defnydd o sgiliau digidol yn eu bywydau ers graddio a’r sgiliau yr hoffent fod wedi eu datblygu ymhellach cyn iddynt adael Prifysgol Aberystwyth.
Proffiliau Sgiliau Digidol Cyflogwyr
Gweld cyfres o gyfweliadau gyda chyflogwyr am sgiliau digidol sy'n bwysig i'w gweithwyr a pha sgiliau digidol, yn eu tyb hwy, y gallai graddedigion eu gwella.