Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion

Gweld cyfres o gyfweliadau gyda graddedigion Prifysgol Aberystwyth am eu defnydd o sgiliau digidol yn eu bywydau ers graddio a’r sgiliau yr hoffent fod wedi eu datblygu ymhellach cyn iddynt adael Prifysgol Aberystwyth. 

Myfyriwr Graddedig Troseddeg

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? – 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Troseddeg

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn broffesiynol ers graddio? – Rwy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd fel Ysgrifennydd Cynorthwyol yn Adran Oncoleg Ysbyty Brenhinol Amwythig.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? 

Cydweithredu a Chyfathrebu Digidol – “anfon negeseuon ebost a defnyddio MS Teams i gyfathrebu â chydweithwyr”.

Datrys Problemau Digidol – “mae’r Gwasanaeth Iechyd yn defnyddio llawer o hen systemau felly rwy’n aml yn delio â meddalwedd wedi chwalu, cyfrifiaduron wedi rhewi, ffeiliau wedi’u llygru a’u dileu”.

Dysgu Digidol – “Roedd rhaid imi ddysgu sut i ddefnyddio Excel ar gyfer taenlenni a sut i ddefnyddio system lythyrau ddigidol awtomataidd y Gwasanaeth Iechyd er mwyn llenwi manylion cleifion ar ffurflenni”.

Hunaniaeth Ddigidol – “mae gan y Gwasanaeth Iechyd ganllawiau ar sut i gyflwyno’ch hun ar-lein a sut i drin data cleifion yn iawn yn unol â’r rheoliadau diogelu data.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Fe hoffwn i pe bawn i wedi defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael imi a’u harchwilio’n fwy yn hytrach na’u defnyddio ar gyfer yr hyn roedd ei angen yn fy modiwlau a’m haseiniadau yn unig. Fe hoffwn i hefyd pe bawn i wedi archwilio neu wedi cael fy nysgu mwy ar Excel gan fy mod i’n defnyddio hwnnw gymaint yn fy swydd i ac rwy’n credu mai dim ond yr hanfodion roeddwn i’n gwybod amdanyn nhw wrth imi ddechrau”.

Oes unrhyw wendidau cyffredin mewn sgiliau digidol y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ymysg eich cydweithwyr?

“Oes, gwendidau enfawr yn bendant mewn sgiliau datrys problemau digidol o ran gwybod sut i drwsio materion technegol pan maen nhw’n digwydd yn ogystal â sgiliau llythrennedd gwybodaeth ynglŷn â defnyddio cyfrifiaduron yn gyffredinol”.

Myfyriwr Graddedig Gwneud Ffilmiau

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? - 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Gwneud ffilmiau

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? – “Dwi wedi bod yn creu portffolio o fy ngwaith, diweddaru fy CV, gwneud cardiau busnes, cael trwydded yrru a gwneud gwaith gwirfoddol fel helpu gyda ffotograffiaeth digwyddiadau”.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio’n aml? –

Creadigrwydd digidol – “Rwy’n eitha medrus mewn Photoshop, meddalwedd golygu, meddalwedd golygu ffilm a fideo a meddalwedd sgriptio fel Trelby”.

Llythrennedd data a hyfedredd digidol – “Defnyddies i Excel i gasglu a chyflwyno data o sioe dalent ac yna cyfri’r data. Rwy’n teimlo’n hyderus mewn sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol ac mae’n well gen i Gwglo unrhyw broblemau yn gynta cyn troi at arbenigwr Technoleg Gwybodaeth felly datrys problemau digidol hefyd”.

Llythrennedd Gwybodaeth – “Dysges i sut i Gwglo pethau’n effeithlon trwy ddefnyddio geiriau allweddol”.

Ôl troed digidol – “Rwy’n ceisio bod yn ymwybodol o fy ôl troed digidol a pheidio â rhoi gormod o wybodaeth i Google, rwy’n ymfalchïo cyn lleied o wybodaeth sydd gan Google amdana i! Dwi ddim yn defnyddio TikTok chwaith oherwydd pryderon diogelwch”.

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Mewn byd delfrydol byddai’n wych gwybod sut i gymryd rheolaeth lawn o’ch ôl troed digidol ond galla i werthfawrogi nad yw hyn yn bosibl mewn gwirionedd. Ond efallai y byddai’n syniad da cael rhaglenni gorfodol ar gyfer diogelwch a phreifatrwydd ar-lein a sut gall y pethau rydych chi’n eu dweud ar-lein gael eu defnyddio yn y dyfodol”.

Ble wnaethoch chi ddysgu’r sgiliau digidol hyn?

“Dysges i’n bennaf am yr holl wahanol feddalwedd creu digidol yn y brifysgol a defnyddies i fy nisgownt myfyriwr i gael pethau fel Adobe Cloud. Dysges i sut i ddefnyddio cryn dipyn o raglenni drwy jyst chwarae o gwmpas a gwylio ambell i diwtorial”.

 

Myfyriwr Graddedig Seicoleg a Throseddeg

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? – 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Seicoleg a Throseddeg

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Rwy’n gweithio mewn Gwasanaethau Morgais ar gyfer TSB Banking felly yn cymryd taliadau ac yn ateb ymholiadau cwsmeriaid.”

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? –

Cyfathrebu a Chydweithio – “Rydyn ni’n defnyddio Teams gryn dipyn o ddydd i ddydd, er enghraifft mae gennyn ni hwb rydyn ni i gyd yn ei ddefnyddio i gyfathrebu â’n gilydd os oes ymholiad gan gwsmeriaid nad ydyn ni’n gwybod yr ateb iddo a gallwn ni weld oes unrhyw un arall wedi profi’r mater a bod ateb ganddyn nhw. Rydyn ni hefyd yn defnyddio hen ddigon ar yr ebost i gyfathrebu â chwsmeriaid a chydweithio gyda’r tîm taliadau i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n gywir.”

Dysgu digidol – “Bob tri neu bedwar mis rydyn ni’n cael hyfforddiant ar-lein trwy hwb y cwmni fel y gallwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein sgiliau digidol a dod o hyd i wybodaeth a’i defnyddio. Felly ar hyn o bryd mae gennyn ni un i sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r systemau Microsoft yn gywir.”

Llythrennedd gwybodaeth a data – “Mae gennyn ni lot o daenlenni Excel gyda data cwsmeriaid i weithio gyda nhw i sicrhau eu bod nhw’n cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac i baru data a gwybodaeth gyda’r adran daliadau.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Mae’n debyg mai dim ond gwella hyfedredd technegol yn gyffredinol achos bod bywyd yn eitha ar-lein erbyn hyn. Hefyd mynd dros hunaniaeth a lles digidol oherwydd rwy’n credu ein bod ni wir wedi ymdrin ag ochr y data ac ochr dechnegol pethau, ond nid sut i ddefnyddio’ch proffil ar-lein i’ch helpu i gael swydd a sut i bortreadu’ch hun.

Ble wnaethoch chi ddysgu’r sgiliau digidol hyn?

“Cafodd llawer o feddalwedd sylfaenol Microsoft ei gyflwyno yn y brifysgol ac roeddwn i hefyd yn gweithio pethau allan ar fy mhen fy hun a gyda fy ffrindiau ac yna dysgodd fy nghyflogwr lawer o’r stwff sy’n benodol i’r swydd drwy ddefnyddio eu hyfforddiant ar-lein.”

Myfyriwr Graddedig Ffiseg

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? - 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Ffiseg

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? Dwi wedi dysgu Saesneg yn Japan ac wedi gwneud PhD mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Leeds. Ar hyn o bryd dwi’n dysgu rhaglennu cyfrifiadur i fy hunan a dwi’n gobeithio dod o hyd i yrfa yn hynny.

Pa sgiliau digidol ydych chi wedi’u defnyddio yn y gwaith? –

Creu’n ddigidol – “pan oeddwn i’n dysgu Saesneg byddwn i’n creu a dylunio deunydd gwersi drwy ddefnyddio pethau fel MS PowerPoint.”

Dysgu digidol – “Yn ystod fy PhD dysges i lawer iawn o sgiliau digidol newydd a defnyddio llawer o raglenni a meddalwedd newydd, yn enwedig wrth ddadansoddi a thrin data”.

Hyfedredd digidol – “yn fy ngwaith addysgu ac yn fy PhD roeddwn i’n dibynnu ar offer a meddalwedd digidol i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd felly mae gen i hyfedredd digidol da. Pan ddechreues i fy ngradd israddedig yn Aberystwyth dyna’r tro cyntaf imi anfon neges ebost erioed felly dwi wedi dysgu lot ers hynny.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn cyfrifiadura ac felly dwi’n teimlo’n eithaf medrus yn enwedig ar ôl gwneud Safon Uwch mewn cyfrifiadureg. Fe godes i’r rhan fwyaf o sgiliau digidol cyn graddio ond efallai byddai’r gallu i ddysgu sgiliau rhaglennu cyfrifiadur ar sail y llwyfannau oedd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei gwneud hi’n haws dod o hyd i swydd yn y maes nawr.”

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw wendidau cyffredin yn sgiliau digidol y rhai mewn maes tebyg â chi?

“Ddim mewn gwirionedd gan fod y rhan fwyaf o raddedigion ffiseg yn ymddangos yn eithaf da gyda thechnoleg ond dwi’n gweld patrwm o ran y berthynas rhwng pa mor dueddol yw pobl tuag at dechnoleg gyfrifiadura ac os nad oes gan bobl ddiddordeb ynddo y cyfan maen nhw’n ei wneud yw codi’r peth lleia sydd ei angen arnyn nhw.”

Myfyriwr Graddedig Celfyddyd Gain ac Astudiaethau Ffilm a Theledu

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? - 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Celfyddyd gain ac astudiaethau ffilm a theledu.

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? – “Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ym maes lletygarwch ond dyw hi ddim yn swydd barhaol, dwi’n chwilio am swydd ym maes cynhyrchu ffilmiau ac yn y cyfamser dwi’n gweithio ar fy CV ac yn creu gwefan portffolio”.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? – Creadigrwydd digidol – “Dwi’n golygu lluniau gyda Photoshop, dwi wrthi’n creu gwefan gyda WordPress ac yn defnyddio Instagram i adeiladu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol”.

Hyfedredd digidol – “Gweithio gyda meddalwedd i gofnodi archebion ar y til a chymryd taliadau cardiau digidol”.

Llythrennedd data – “Dwi’n defnyddio taenlenni i gofnodi treuliau a dwi wrth fy modd efo cyfrifiaduron felly dwi’n defnyddio lot arnyn nhw ar gyfer ymchwil, er enghraifft ffeindio doctor ar gyfer fy ffrind sy’n siarad Pwyleg yn unig.”

A gawsoch chi unrhyw gefnogaeth gyda’ch sgiliau digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth? “Do, roedd help gyda meddalwedd yn y darlithoedd a dwi’n cofio cael llawer o negeseuon ebost yn ein hatgoffa ni am y cymorth sydd ar gael. Dwi’n gwybod fy mod i wedi cael help gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer Outlook / ebost”.

A oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn graddio? – “Do, mwy o gymorth i ddefnyddio LinkedIn a chwilio am bobl a swyddi. Rwy’n ei chael hi’n anodd i’w ddeall ac rwy’n gorfod ei ddysgu i mi fy hun nawr”.

Oes unrhyw wendidau cyffredin mewn sgiliau digidol y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ymysg eich cydweithwyr? “Cymhwyso ymchwil at sgiliau digidol neu ddatrys problemau digidol”.

Myfyriwr Graddedig Biocemeg

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Biocemeg

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Rwy’n gwneud gradd meistr mewn Biowybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich MSc? –

Creu’n ddigidol – “felly defnyddio PowerPoint ac Excel i gyflwyno data a gwybodaeth.”

Dysgu digidol – “defnyddio rhaglenni iaith yn bennaf, defnyddies i R yn fy ngradd israddedig ond dwi ddim yn credu fy mod i wedi dysgu digon a dim ond y pethau sylfaenol ddysges i felly dwi wedi defnyddio LinkedIn Learning i ddatblygu’r sgiliau yna.”

Gwybodaeth a Llythrennedd Digidol – “Dwi’n defnyddio Google Scholar lot a ChatGPT sydd ag ochr dda yn ogystal ag un wael ac mae fy narlithydd cyfrifiadureg mewn gwirionedd yn ei argymell ar gyfer pan nad ydych chi’n gwybod beth mae’r llinell orchymyn yn ei wneud neu os ydych chi’n ansicr o’r hyn mae gorchymyn yn ei wneud, mae’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer aralleirio gwybodaeth i’ch helpu i’w deall yn well.”

Cyfathrebu a Chydweithio – “Dwi’n defnyddio LinkedIn i rwydweithio ac i ddod o hyd i swyddi gan fod llawer o bobl yn chwilio am swyddi ac yn hysbysebu yn y gofod ar-lein erbyn hyn felly mae fel Facebook y byd gwaith.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Byddwn i wedi hoffi cael mwy o help gydag R, mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys yn ystod eich gradd israddedig yn gyffredinol iawn ac yn amhenodol ond mae’n debyg mai dyna ble mae LinkedIn Learning yn helpu i gael y sgiliau manwl yna.”

Ble wnaethoch chi ddysgu’r sgiliau digidol hyn?

“Dysges i lawer ohonyn nhw yn ystod fy ngradd israddedig a gyda phob modiwl byddech chi’n dysgu sgiliau digidol ond ar gyfer pethau fel R defnyddies i LinkedIn Learning a dwi hefyd wedi ei ddefnyddio i ddatblygu fy hobïau oherwydd fy mod i’n mwynhau ffotograffiaeth mewn gwirionedd. Dim ond yn hwyr yn fy ngradd israddedig y des i o hyd iddo fe ac fe hoffwn pe bawn i wedi cael gwybod amdano yn gynt.”

Myfyriwr Graddedig Swoleg

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? - 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Swoleg

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Yn y 6 mis diwethaf rwyf wedi cael swydd wirfoddol mewn gwarchodfa RSPB yn yr Alban ond dwi newydd gael swydd am dâl am 3 mis yn arolygu adar môr ar Ynysoedd Sili gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol”.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? –

Llythrennedd data a gwybodaeth – “Dwi wedi gwneud llawer o fewnbynnu data a gweithio gydag Excel a hefyd teipio nodiadau ysgrifenedig ar daenlenni. Hefyd ysgrifennu adroddiadau gyda rhywfaint o ddadansoddi ystadegau ond mae hyn wedi’i wneud yn bennaf gydag Excel hefyd”.

Dysgu digidol – “Gan fy mod i’n gweithio yn yr RSPB dwi wedi gorfod defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a doeddwn i ddim wedi defnyddio’r rheiny tan oeddwn i yn yr RSPB gan nad oedden nhw’n rhan o fy nghwrs i”.

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Byddai wedi bod yn ddefnyddiol dysgu GIS a hefyd efallai rhai sgiliau creu mapiau ar lefel ragarweiniol ac efallai cael cyrsiau ar lefelau gwahanol felly ar gyfer dechreuwyr, canolradd ac uwch er enghraifft. Byddai diddordeb gen i hefyd mewn defnyddio meddalwedd dadansoddi delweddau achos byddai hynny wedi bod yn dda ar gyfer fy nhraethawd hir ond hefyd gwaith felly er enghraifft fe allwn i uwchlwytho delwedd o gwmwl o ddrudwy a byddai’n awtomatig yn cyfrif faint o adar sydd yna”.

Oes unrhyw wendidau cyffredin mewn sgiliau digidol y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ymysg eich cydweithwyr?

“Oes, ystadegau. Roedd hi fel petai nad oedd e’n clicio i rai pobl a bod dim mwy o gefnogaeth ar gael – roedd hi fel petai angen ichi ailadrodd y drefn. Roedd yr adnoddau i gyd yna ichi ddysgu, sy’n beth da”.

Myfyriwr Graddedig Hanes a Gwleidyddiaeth

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? - 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? “Hanes a Gwleidyddiaeth”

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Dwi nawr yn gweithio i gwmni Hyfforddiant Cambrian fel cyfieithydd”

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn y gwaith?

Cyfranogiad digidol – “Dwi’n cael lot o gyfarfodydd ar-lein, ac rydyn ni’n defnyddio Google Meet ar gyfer rhain.”

Hyfedredd digidol – “Gan fy mod i’n gyfieithydd, dwi’n defnyddio tipyn ar raglenni fel Cysgeir a Cysill, a dwi hefyd yn defnyddio geiriaduron ar-lein fel Byd Termau Cymru a Geiriadur yr Academi.”

Cyfathrebu digidol – “Dwi’n defnyddio Gmail pob dydd ar gyfer e-bostio cydweithwyr.”

Cynhyrchiant digidol – “Dwi’n defnyddio labeli yn Gmail ar gyfer helpu fi i drefnu fy e-byst.”

A gawsoch chi unrhyw gefnogaeth gyda’ch sgiliau digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

“Ges i dipyn o gefnogaeth gan fy narlithwyr a gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddysgu sut i ddefnyddio Cysill a Cysgeir.” “Ges i gefnogaeth gan ddarlithwyr ar sut i ddefnyddio’r rhestrau darllen ar Blackboard. Roedd hynna’n help mawr ar gyfer dod o hyd i adnoddau ar gyfer ysgrifennu traethodau.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Pan nes i adael y Brifysgol, doeddwn i ddim yn hyderus iawn yn cyfathrebu dros e-bost mewn modd proffesiynol, felly byddai wedi bod yn dda gallu ymarfer hyn mwy cyn gadael.” “Rydyn ni’n defnyddio Excel lot yn y gwaith nawr i reoli data. Nes i ddim defnyddio Excel o gwbl fel rhan o fy ngradd i, ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn gallu dysgu sut i’w ddefnyddio tro oeddwn i yn fyfyriwr.”