Cam 3: Datblygu eich Sgiliau Digidol
Ar ôl ystyried eich sgiliau digidol, efallai y bydd meysydd penodol yr hoffech eu datblygu yn unol â'ch datblygiad personol. Mae'r casgliadau isod o adnoddau PA ac adnoddau allanol wedi eu crynhoi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol ym mhob maes.
LinkedIn Learning
Mae gan yr holl fyfyrwyr fynediad am ddim i filoedd o gyrsiau dan arweiniad arbenigwyr trwy LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein. Trwy LinkedIn Learning, gallwch ddatblygu ystod eang o sgiliau, o gyflwyno yn hyderus i ddysgu sut i godio.
Llyfrgell Sgiliau Digidol
Mae'r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn cynnwys chwe chasgliad o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol, o wella lles digidol i ddefnyddio technoleg i reoli straen arholiadau.
TipDigidol
Edrychwch ar ein TipDigidol wythnosol byr, a gynlluniwyd i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg. Darganfyddwch lwybrau byr bysellfwrdd defnyddiol, offer fel hidlwyr golau glas sy'n cefnogi eich lles digidol, a llawer mwy!
Adnoddau Allanol Am Ddim
Ymhellach i'r adnoddau PA y mae'r Tîm Sgiliau Digidol wedi'u creu, eu curadu a'u casglu; mae yna lawer o adnoddau allanol y gallwch eu defnyddio i helpu i wella'ch sgiliau digidol. Edrychwch ar adnoddau fel Code First Girls a Free Code Camp.
Mwy o Awgrymiadau Digidol
Mae'r Tîm Sgiliau Digidol hefyd yn cynhyrchu negeseuon blog, ffeithluniau a chyrsiau sy'n cynnwys mwy o awgrymiadau digidol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol. Mae'r rhain yn cynnwys awgrymiadau i helpu gyda'ch lles digidol, awgrymiadau Microsoft a nodweddion newydd i LinkedIn Learning!
Cadwch lygad ar y diweddaraf
Am fwy o wybodaeth amdanon ni fel tîm a’n gwaith ar hyn o bryd - edrychwch ar yr holl ffyrdd y gallwch gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.