Mwy o Awgrymiadau Digidol
Edrychwch ar yr holl awgrymiadau digidol eraill y mae'r Tîm Sgiliau Digidol wedi'u creu i helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol. Isod, gallwch ddod o hyd i ffeithluniau i helpu gyda'ch lles digidol, gwella eich ergonomeg ddigidol a thrin ac ystyried eich sgiliau digidol.
Gŵyl Sgiliau Digidol 2023
Gweld yr holl recordiadau ac adnoddau ar gyfer y sesiynau a gyflwynwyd yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol 2023.
Jisc: Offer DA bob dydd
Canllaw i Fyfyrwyr ar drechu Straen Llygaid Cyfrifiadurol
Canllaw i Fyfyrwyr ar drechu Straen Llygaid Cyfrifiadurol – Gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr
Dyma rai awgrymiadau rydw i wedi’u defnyddio i helpu i wneud defnyddio cyfrifiaduron yn brofiad mwy pleserus trwy gydol fy ngradd. Mae mwy o wybodaeth ar y Blog Sgiliau Digidol.
Rheol 20-20-20
- Bob 20 munud
- Cymerwch egwyl o 20 eiliad
- Canolbwyntiwch ar wrthrych 20 troedfedd i ffwrdd
- Amrantwch lawer yn ystod yr egwyl hon
Lleihau Golau Glas
- Defnyddiwch feddalwedd i leihau golau glas
- Gosodiadau system megis Nightshift ar MacOS a Nightlight ar Windows
- Defnyddiwch feddalwedd trydydd parti megis f.lux
- Defnyddiwch sbectol hidlo golau glas
Galluogi Modd Tywyll
Meistroli eich amserlen
Meistroli eich Amserlen - Crëwyd gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr
Wrth i ddyddiad cyflwyno aseiniad nesáu, gall pethau ddechrau eich llethu’n gyflym iawn. Fodd bynnag, gyda’r paratoadau cywir, gallwch gynyddu eich siawns o lwyddo yn sylweddol.
Bydd y camau hyn yn eich helpu i gyrraedd yno:
- Cofnodwch unrhyw Ddyddiadau Cyflwyno
- Cofnodwch ddyddiad cyflwyno’r aseiniad (Fel arfer fe’i ceir yn llawlyfrau y modiwl).
- Penderfynwch faint o amser sydd ei angen i gwblhau’r gwaith.
- Cynlluniwch ddiwrnod i ddechrau gweithio ar yr aseiniad.
- Trefnu eich diwrnod
- Cynlluniwch eich tasgau ar gyfer y diwrnod.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys seibiannau.
- Gall yr amcanion dyddiol hyn fod mor eang neu mor fanwl ag yr hoffech chi.
- Gweithio mewn grŵp
- Ceisiwch gydlynu cyn gynted â phosibl.
- Gosodwch derfynau amser gyda’ch gilydd.
- Rhannwch y llwyth gwaith.
- Defnyddiwch ystafelloedd gwaith grŵp Llyfrgell Hugh Owen.
- Defnyddio meddalwedd
- Gellir defnyddio Notion i gofnodi dyddiadau cau aseiniadau.
- Gall Google Tasks a Microsoft-To-Do eich helpu i rannu tasgau fesul diwrnod.
- Defnyddiwch Teams i’ch helpu i drefnu eich cyfarfodydd a’ch tasgau grŵp.
Eich Rhestr Wirio Hunaniaeth Ddigidol: 5 Awgrym Defnyddiol
5 Awgrym Defnyddiol: Eich Rhestr Wirio Hunaniaeth Ddigidol
Mae bod yn gyfrifol am eich hunaniaeth ddigidol bellach yn bwysicach nag erioed. Diogelwch eich preifatrwydd, cryfhewch eich diogelwch, a datglowch gyfleoedd proffesiynol posibl gyda’r canllaw byr isod.
1. Adolygu eich Gosodiadau Preifatrwydd
Manteisiwch ar offer sy’n eich galluogi i arddangos eich cynnwys fel ag y mae’n weladwy i’ch cynulleidfa, addasu gosodiadau preifatrwydd ar gyfer negeseuon unigol neu addasu pa wybodaeth y gellir ei defnyddio i chwilio’ch proffil.
2. Rhannu’n Feddylgar
Peidiwch â dibynnu ar breifatrwydd yn unig. Meddyliwch cyn postio, gan ystyried yr effaith bosibl ar eich enw da a’ch diogelwch. Byddwch yn ofalus o gynnwys y gellid ei gamddehongli neu ei ddarllen allan o’i gyd-destun, a pheidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol sensitif yn ddiangen.
3. Monitro’ch Ôl Troed Digidol
Chwiliwch am eich enw ar-lein yn rheolaidd i asesu’r wybodaeth sydd ar gael. Ystyriwch osod rhybuddion ar gyfer cyfeiriadau neu gynnwys newydd sy’n gysylltiedig â’ch enw.
4. Curadu Eich Cynnwys
Aliniwch gynnwys a rennir â’r ddelwedd ddigidol yr hoffech. Dilëwch neu ddiweddarwch wybodaeth sy’n hen neu’n amherthnasol
5. Adeiladu Presenoldeb Ar-lein Proffesiynol
Arddangoswch sgiliau a chyflawniadau ar lwyfannau proffesiynol, gan gynnal tôn a delwedd broffesiynol wrth gyfathrebu.
Tîm Sgiliau Digidol digi@aber.ac.uk
6 awgrym i gael Cyfarfodydd Ar-lein Llwyddiannus
6 awgrym i gael Cyfarfodydd Ar-lein Llwyddiannus
P’un a ydych yn mynychu darlith rithiol, yn cydweithio ar brosiect grŵp, neu’n mynychu cyfweliad am swydd, mae gwybod sut i lywio cyfarfodydd ar-lein yn effeithiol yn hanfodol i lwyddo.
- Paratowch fel y byddech chi'n paratoi ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
- Cysylltwch yn gynnar
- Curadwch eich deunydd gweledol
- Optimei ddiwch eich sain
- Lleihewch ymyriadau
- Meddyliwch am beth yr ydych yn ei rannu
Tîm Sgiliau Digidol digi@aber.ac.uk
8 awgrym i Dacluso eich Gofodau Digidol
8 awgrym i Dacluso eich Gofodau Digidol
Ydych chi'n aml yn cael eich llethu gan yr holl annibendod sy'n adeiladu ar eich ffon neu gyfrifiadur? Rhowch dro ar rhai o'r awgrymiadau isod i chi ddechrau rhoi trefn ar yr annibendod yn eich gofodau digidol!
- Categoreiddio apiau i ffolderi (e.e. Siopa, Teithio, Cartref)
- Dileu ffeiliau dyblyg neu ddiangen
- Gwagio eich ffolder lawrlwytho a'ch ffolder bin ailgylchu
- Dadosod apiau nad ydynt yn cael eu defnyddio
- Categoreiddio eich e-byst i ffolderi (e.e. Pwysig, Angen Darllen)
- Dileu nodau tudalen eich porwr os nad ydych eu hangen
- Dewiswch enwau clir ar gyfer eich ffeiliau a'ch ffolderi
- Dad-danysgrifio o restrau postio nad ydych yn eu defnyddio mwyach
Tîm Sgiliau Digidol digi@aber.ac.uk
5 awgrym i gael Gweithio ar eich Cyfrifidur yn Gymaeg
5 awgrym i gael Gweithio ar eich Cyfrifidur yn Gymaeg
Mae’n hynod o bwysig bod dewis gan bawb i weithio ar eu cyfrifiadur yn yr iaith y dymunant!
1. Newid iaith eich cyfrifiadur i’r Gymraeg
Un o’r pethau cyntaf gallwch wneud yw newid iaith arddangos eich cyfrifiadur. Bydd hyn yn addasu rhyngwyneb eich cyfrifiadur a bydd eiconau fel Gosodiadau (Settings) a Chwilotwr Ffeiliau (File Explorer) yn ymddangos yn Gymraeg.
2. Newid iaith meddalwedd penodol i’r Gymraeg
Mae hefyd opsiwn i chi newid iaith meddalwedd penodol, a gallwch wneud hyn yn unrhyw raglen Microsoft Office. Mae gennych chi’r opsiwn i newid yr iaith arddangos ac i newid eich iaith awduro a phrawf ddarllen.
3. Defnyddio app to bach
Gallwch lawrlwytho meddalwedd to bach ar eich cyfrifiadur gwaith o’rganolfan feddalweddneu ar eich cyfrifiadur personol, wedyn daliwch allwedd Alt Gr i lawr a theipio’r llafariad rydych chi’n dymuno cael to bach arni.
4. Newid iaith prawf ddarllen eich dogfennau
Yna gallech addasu iaith prawf ddarllen dogfennau unigol er mwyn sicrhau bod gwallau sillafu a gwallau gramadegol syml yn cael eu amlygu.
5. Gwirio eich testun gyda Cysill
Mae Cysill yn rhan o becyn meddalwedd iaith Cysgliad y gallwch ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Bydd Cysill yn caniatáu i chi adnabod o chywiro gwallau Cymraeg yn eich testun, ac mae’n cynnwys thesawrws defnyddiol.
Tîm Sgiliau Digidol digi@aber.ac.uk