Bydd tanysgrifiad y Brifysgol i LinkedIn Learning yn dod i ben ym mis Mawrth 2025. Os ydych chi wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac yn dymuno cadw eich tystysgrif(au) cwblhau, lawrlwythwch nhw erbyn diwedd mis Mawrth 2025. Mae canllawiau ar sut i wneud hyn ar gael yma.
Mae holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau mynediad diderfyn am ddim i LinkedIn Learning, llwyfan ar-lein sy'n cynnig miloedd o gyrsiau dan arweiniad arbenigwyr sy'n addas ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch. Gyda LinkedIn Learning, gallwch ddatblygu ystod eang o sgiliau, o ddefnyddio offer DA a chyflwyno yn hyderus i feistroli meddalwedd newydd, gan gynnwys ieithoedd rhaglennu amrywiol a chymwysiadau Microsoft.