Curadu eich casgliadau a'ch llwybrau dysgu eich hun
Mae creu a theilwra Casgliadau a Llwybrau Dysgu yn ffordd wych i staff argymell cynnwys i fyfyrwyr sy'n berthnasol i bwnc penodol.
Casgliadau a Llwybrau Dysgu – Beth yw'r gwahaniaeth?
Mae creu a theilwra Casgliadau a Llwybrau Dysgu yn ffordd wych i staff argymell cynnwys i fyfyrwyr sy'n berthnasol i bwnc penodol. Gall Casgliadau a Llwybrau Dysgu gynnwys nifer o wahanol adnoddau, gan gynnwys:
- Fideos LinkedIn Learning
- Cyrsiau LinkedIn Learning
- Eich cynnwys eich hun (e.e. fideos neu ddogfennau)
Y prif wahaniaeth rhwng y ddau yw sut y bydd eich myfyrwyr yn defnyddio’r cynnwys hwnnw.
Yn gyffredinol, mae llwybrau dysgu wedi’u rhannu’n adrannau gwahanol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i wylio'r cynnwys mewn trefn benodol, a byddant hefyd yn gallu gadael y llwybr dysgu a dechrau eto o'r un man ar eu hymweliad nesaf. Dyma enghraifft o lwybr dysgu, wedi'i guradu gan aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Grŵp unigol o gynnwys yw Casgliadau, a gall myfyrwyr ddewis defnyddio’r cynnwys mewn unrhyw drefn. Dyma enghraifft o gasgliad, wedi'i guradu gan aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Creu Casgliadau
I ddysgu sut i greu eich casgliadau wedi eu teilwra, gwyliwch y fideo hwn gan LinkedIn Learning: Creu Casgliad (3m 35e).
Sylwer: Os hoffech ychwanegu cynnwys wedi'i deilwra i'ch casgliadau LinkedIn Learning, rhaid i chi yn gyntaf gael Caniatâd curadur o fewn LinkedIn Learning. Gallwch ofyn am ganiatâd curadur yma.
Creu Llwybrau Dysgu
I ddysgu sut i greu eich casgliadau wedi eu teilwra, gwyliwch y fideo hwn gan LinkedIn Learning: Creu a rhannu llwybrau dysgu (5m 16e).
Sylwer: Rhaid i staff yn gyntaf gael Caniatâd curadur o fewn LinkedIn Learning i greu llwybrau dysgu wedi eu teilwra. Gallwch ofyn am ganiatâd curadur yma.
Cais am Ganiatâd Curadur
Er mwyn creu Llwybrau Dysgu wedi’u teilwra, neu i ychwanegu cynnwys wedi’i deilwra i gasgliadau, rhaid i staff yn gyntaf gael Caniatâd curadur o fewn LinkedIn Learning.
I ofyn am y caniatâd hwn, e-bostiwch digi@aber.ac.uk gan roi 'Cais am Ganiatâd Curadur' yn y llinell destun.
Er mwyn gwirio a ydy’r caniatâd hwn gennych eisoes gallwch edrych yng nghornel dde uchaf eich hafan LinkedIn Learning. Os ydych chi eisoes wedi'ch gosod fel curadur, bydd gennych chi fotwm i adio, Add.
Ymgorffori eich cynnwys yn Blackboard Learn Ultra
Yn unol ag unrhyw gynnwys LinkedIn Learning, gall staff hefyd ymgorffori unrhyw gasgliadau a llwybrau dysgu y maent wedi'u creu yn eu modiwlau Ultra Blackboard Learn i hwyluso eu defnydd gan fyfyrwyr.