Code First Girls

Mae Code First Girls yn wasanaeth ar-lein rhad ac am sydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth ac sy'n ymroddedig i ddarparu cyrsiau codio i helpu menywod a phobl anneuaidd i ddatblygu eu sgiliau codio. Cynhaliodd Code First Girls sesiwn yng Ngŵyl Sgiliau Digidol 2023, gallwch wylio'r sesiwn isod lle buont yn trafod mwy am y rhaglenni a'r cyrsiau y maent yn eu darparu a phwysigrwydd eu gwaith.

Fy mhrofiad gyda Code First Girls

Cymerodd cydweithiwr ran yn un o gyrsiau Code First Girls' ac ysgrifennodd flogbost am ei phrofiad o’r broses a'r cwrs ei hun, gallwch ddarllen ei meddyliau yma.

5 rheswm pam y dylech gofrestru gyda Code First Girls

Neidio i fersiwn testun

Fersiwn Testun

5 rheswm pam dylech gofrestru gyda Code First Girls. Manteisiwch ar bartneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Code First Girls a dechreuwch eich taith codio heddiw!

  1. Cyfle anhygoel i fenywod ac unigolion anneuaidd ddysgu sut i godio
  2. Mae’n rhad ac am ddim!
  3. Bydd yn rhoi hyder i chi, p’un a ydych chi’n newydd i godio neu’n arbenigwr
  4. Cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth o’r radd flaenaf gyda brandiau byd-eang megis NatWest, Nike a BT
  5. Ymestyn eich rhwydwaith a chwrdd â ffrindiau newydd o’r un anian!

Sut gallaf fi gofrestru?

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Code First Girls neu os hoffech gofrestru ar gyfer un o'u cyrsiau nawr, ewch i'w gwefan.

Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â'r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd hyn ar ein tudalen adnoddau allanol am ddim.