Blog Sgiliau Digidol
Bwriad y Blog Sgiliau Digidol yw cyflwyno’r newyddion diweddaraf am y cyfleoedd a’r datblygiadau gan y Tîm Sgiliau Digidol i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gallwch chi hefyd danysgrifio i’r blog er mwyn derbyn hysbysiadau drwy e-bost am gyhoeddiadau newydd ar y blog.
TipDigidol 60: Pwerwch eich PowerPoint! ⚡
Ydych chi erioed wedi cael trafferth cyflwyno eich PowerPoint ar-lein trwy rannu eich sgrin? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gyflwyno’n uniongyrchol o PowerPoint i Teams? Wel rydych chi’n gwybod nawr gyda ThipDigidol 60! Pan fyddwch yn eich cyfarfod ac yn barod i rannu eich sleidiau – dewiswch y botwm “present in Teams” yn eich […]
TipDigidol 59: Cofiwch yfed digon o ddŵr gyda’r ap My Water 💧
Ydych chi’n anghofio yfed digon o ddŵr yn y Brifysgol neu yn y gwaith? Dyma’r TipDigidol i chi. Mae yfed digon o ddŵr yn rhan bwysig o’ch lles gan ei fod yn dylanwadu ar faint o egni sydd gennych ac yn eich helpu i ganolbwyntio. Mae gan My Water fersiwn am ddim a fydd yn […]
TipDigidol 58: Rheoli eich Penawdau yn Word ⌨️
Weithiau, gall cyfnewid o wahanol benawdau yn Word fod yn boen, ond gyda ThipDigidol 58 does dim rhaid iddo fod yn boen mwyach! Defnyddiwch y llwybr byr syml: Ctrl + Shift + S i gyfnewid yn hawdd rhwng yr holl wahanol arddulliau pennawd sydd ar gael yn Word. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch […]
Neges atgoffa derfynol: Lawrlwythwch eich Tystysgrifau LinkedIn Learning 💾
Mae ychydig dros wythnos o hyd nes i’n tanysgrifiad i LinkedIn Learning ddod i ben. Os ydych wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac eisiau cadw’ch tystysgrif(au) cwblhau, mae gennych ychydig dros wythnos i’w lawrlwytho. Gallwch weld sut i wneud hyn drwy wylio’r fideo isod.
Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd 🌲
Heddiw – 21 Mawrth 2025 – yw Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd ac i ddathlu rydyn ni’n ailymweld â phob blogbost a ThipDigidol sy’n gysylltiedig â natur!
TipDigidol 57: Cyfrif Data Penodol yn Excel 🔢
Ydych chi eisiau cyfrif sawl gwaith mae enw’n ymddangos mewn colofn ochr yn ochr ag amodau eraill yn Excel? Gyda TipDigidol 57 gallwn ddangos y fformiwla i chi wneud hyn. Yn gyntaf bydd angen data tebyg i’r hyn a ddangosir yn y sgrinlun lle mae gennych chi sawl colofn o wybodaeth a lle’r hoffech chi […]
TipDigidol 56: PowerPoint Personol gyda Cameo 🎥
Os ydych chi eisiau i’ch cyflwyniadau gyrraedd y lefel nesaf gallech geisio mewnosod cameo, dysgwch sut gyda ThipDigidol 56! Cameo yw recordiad ohonoch chi’ch hun yn siarad trwy’ch sleidiau ac yn cyflwyno eich PowerPoint. Gallwch weld sut i wneud hyn drwy’r fideo isod. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y […]
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025 #Cyflymu’rGweithredu
Heddiw rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema 2025 yw #Cyflymu’rGweithredu ac mae’n neges bwysig sy’n canolbwyntio ar gyflymu cyflawniad cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Ar hyn o bryd rhagwelir na fyddwn yn cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau tan 2158 ac felly mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yn galw arnom i gydweithio i greu […]
TipDigidol 55: Modd ‘Focus’ yn Windows 11 ⏱️
Ydych chi’n cael trafferth cwblhau eich gwaith? Mae gan DipDigidol 55 yr ateb gyda’r modd ‘Focus’ yn Windows 11. Mae’r modd ‘Focus’ yn nodwedd newydd ar gyfer Windows 11 sydd â nodweddion lluosog i’ch helpu i ganolbwyntio ar eich gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys: Amserydd y gellir ei osod i ba bynnag amser sydd ei […]
Cofiwch lawrlwytho eich Tystysgrifau LinkedIn Learning 📥
Bydd tanysgrifiad y Brifysgol i LinkedIn Learning yn dod i ben ym mis Mawrth 2025. Os ydych wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar LinkedIn Learning ac eisiau cadw’ch tystysgrif(au) cwblhau, mae gennych ychydig dros fis i’w lawrlwytho. Gallwch weld sut i wneud hyn drwy wylio’r fideo isod. Os nad ydych wedi defnyddio LinkedIn Learning o’r […]