Archebwch sesiwn 1:1

Mae'r Tîm Sgiliau Digidol yn cynnig apwyntiadau 1:1 ar gyfer myfyrwyr a staff sydd am drafod eu sgiliau digidol, a gellir trefnu’r rhain ar-lein neu wyneb yn wyneb.  Gallwn ddarparu:

  • Cyngor ar sut i ddatblygu sgiliau digidol penodol.
  • Canllawiau ar y gwahanol adnoddau a chyfleoedd sydd ar gael i chi i'ch cynorthwyo i ddatblygu sgiliau digidol penodol.
  • Cymorth sylfaenol gyda phrif feddalwedd Microsoft Office (e.e. PowerPoint, Word, Outlook, Excel, Teams ac OneNote).
  • Cyngor ar ganllawiau ar ddefnyddio LinkedIn Learning (llwyfan dysgu ar-lein).

 

Gallwch naill ai archebu apwyntiad ar-lein, neu drwy e-bostio digi@aber.ac.uk