Beth yw Sgiliau Digidol?
Sgiliau digidol yw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arferion sy'n ein galluogi i fyw, dysgu a gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn cymdeithas ddigidol.
Mae Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc yn nodi’r chwe phrif elfen sy'n ffurfio gwahanol agweddau ar sgiliau digidol unigolyn.
Mae enghreifftiau o sgiliau digidol yn cynnwys:
- Mabwysiadu dyfeisiau, cymwysiadau, meddalwedd a gwasanaethau newydd
- Cyrchu, gwerthuso a rhannu gwybodaeth yn effeithiol
- Defnyddio e-bost a gwasanaethau cyfathrebu digidol eraill
- Trin data'n briodol a sefydlu arferion diogelwch data da
- Defnyddio technolegau digidol i ddatblygu syniadau, prosiectau a chyfleoedd newydd
- Gweithio mewn timau, grwpiau a phrosiectau digidol i gyflawni nodau a rennir
- Deall sut i ddiogelu eich hun ac eraill er mwyn cadw'n ddiogel yn yr amgylchedd digidol
O ganlyniad i'r pandemig, mae'r amser y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu'n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio ag eraill ar-lein. Rydym hefyd yn gweld technolegau cyfredol yn cael eu disodli gan rai mwy datblygedig.
Mae bod yn ddigidol alluog a hyderus yn bwysig i fyfyrwyr a staff, er mwyn sicrhau y gallant lywio drwy gymdeithas ddigidol sy'n esblygu'n gyson, er mwyn gallu llwyddo yn y gweithle a chystadlu'n llwyddiannus am gyflogaeth yn y dyfodol.