Digideiddio pennod
I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn:
- rhaid i chi fod yn aelod o staff cofrestredig, myfyriwr israddedig, ôl-raddedig a addysgir/TAR/ymchwil neu fyfyriwr Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Os ydych yn Ddysgwr o Bell cyflwynwch eich cais trwy'r dudalen https://www.aber.ac.uk/cy/is/forms/
- rhaid i'r eitem(au) fod yn ein casgliad printiedig yn Llyfrgell Hugh Owen / Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol / Storfa Allanol
- rhaid nad yw'r eitem(au) ar gael yn electronig trwy danysgrifiad llyfrgell ar Primo neu ar gael yn agored ar-lein
- gallwch wneud cais am 1 bennod/10% o'r llyfr (pa un bynnag sydd fwyaf)
- rhaid i chi lenwi a chyflwyno'r ffurflen isod
Bydd y ddogfen yn cael ei anfon yn uniongyrchol i'ch ebost Prifysgol.
Ar gyfer eitemau nad ydynt ar gael yn ein casgliadau electronig neu brint yn y Llyfrgell, cyflwynwch eich cais trwy'r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i gefnogi nodau academaidd y Brifysgol yn unig i Staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn unol â thelerau ein trwydded hawlfraint.
Defnyddir y wybodaeth bersonol a ddarperir ar y ffurflen hon at ddibenion dogfennu’r cais atgynhyrchu hwn ac yn unol â rhwymedigaethau Prifysgol Aberystwyth o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Ceir rhagor o wybodaeth o: https://www.aber.ac.uk/cy/is/about/data-protection-information/
Cysylltwch â'r tîm Cysylltiadau Academaidd os oes gennych unrhyw gwestiynau: llyfrgellwyr@aber.ac.uk