Ystorfa Allanol
Mae’r Ystorfa Allanol yn darparu 10,000 metr o silffoedd ychwanegol i lyfrgelloedd GG. Mae’n bwysig gallu gwneud lle i gaffaeliadau newydd yn y llyfrgelloedd trwy symud eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio mor aml i’r storfa. Fodd bynnag, mae’r deunydd hwn yn bwysig iawn i anghenion dysgu ac ymchwil y Brifysgol.
Mynediad
Gellir cael mynediad i’r deunydd trwy wneud cais drwy Primo – Catalog y Llyfrgell.
Mae cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn ar gael yn ein Cwestiwn Cyffredin ar Wneud Cais. Mae’r Tîm Rheoli Casgliadau’n darparu gwasanaeth adalw dyddiol (dydd Llun i ddydd Gwener) yn ystod y tymor, a dwywaith yr wythnos yn y gwyliau.
Gellir benthyca eitemau o’r storfa am 1 wythnos ac yna cânt eu hadnewyddu’n awtomatig bob wythnos hyd at uchafswm o 12 mis oni bai bod defnyddiwr arall yn gwneud cais amdanynt.
Mae hi hefyd yn bosibl gwneud cais i ddychwelyd eitem yn barhaol neu dros dro i’r silffoedd agored.