Thomas Colby
Roedd Thomas Colby (1784-1852) yn swyddog yn y Peirianwyr Brenhinol ac yn Gyfarwyddwr yr Arolwg Ordnans. Ef oedd yn gyfrifol am lawer o fapio cychwynnol yr Alban ac Iwerddon. Daeth rhai o’i lyfrau i feddiant Prifysgol Aberystwyth ar ôl 1912 yn dilyn rhodd gan aelod arall o’i deulu. Mae nifer o’r cyfrolau yn ymwneud â mathemateg a thirfesur ond mae yno hefyd rai eitemau diddorol a fu unwaith yn eiddo i ffigurau pwysig eraill y cyfnod, gan gynnwys Charles Babbage, Thomas Young and Robert Stevenson. Yn ddiweddarach casglodd Colby rai cyfrolau hynafol diddorol, gan gynnwys un o waith Pliny a gyhoeddwyd yn 1563.