Y Wawr
Ymddangosodd rhifyn cyntaf Y Wawr yng ngaeaf 1913, ar ddiwedd yr haf hirfelyn tesog Edwardaidd. Yng ngholofn olygyddol y rhifyn hwnnw, dywed y golygydd mai ‘prif amcan y cylchgrawn ydyw cadarnhau yr undeb sydd rhwng y werin a myfyrwyr Prifysgol Cymru’ ac mai ‘cynnyrch Cenedlaetholdeb yn deffro yng nghalonau myfyrwyr Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth ydyw’. Sylweddolai’r myfyrwyr eu bod mewn sefyllfa freintiedig; eu bod nhw’n cael y cyfle i gael addysg oherwydd ‘ymdrechion caled y werin’ a oedd wedi sefydlu’r Brifysgol, ac mai eu ‘dyledswydd ydyw ad-dalu iddi am ei llafur’.
Nid oes dim yng nghynnwys y rhifyn cyntaf a allai beri tramgwydd i’r darllenydd mwyaf sensitif, ar wahân, efallai, i’r ffaith ei fod i gyd yn Gymraeg. Ac yn 1913, fel sy’n digwydd yn aml heddiw, roedd hynny ynddo’i hun yn her i’r drefn. Ond wrth i rifynnau eraill gael eu cyhoeddi a’r Rhyfel gychwyn a dwysáu, newidiodd cynnwys Y Wawr a dechreuodd ambell gyfrannwr ofyn beth yr oedd Cymru a Chymry yn ei wneud yn cefnogi ac yn ymladd ar ran yr Ymerodraeth Brydeinig: cwestiwn ar adeg rhyfel a oedd yn sicr o ddwyn beirniadaeth ar y cylchgrawn. Cyrhaeddwyd y penllanw â rhifyn gwanwyn 1918 a hanes hynny sydd gennym yn yr ysgrif, ‘Toriad y Wawr: twf a thranc cylchgrawn Cymraeg cyntaf myfyrwyr Aberystwyth: twf a thranc cylchgrawn Cymraeg cyntaf myfyrwyr Aberystwyth’. Rydym yn ddiolchgar iawn i Robin Chapman am olrhain hanes Y Wawr ac am fwrw golwg newydd ar yr ergydion a ddaeth ag ef i ben.