Coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf
Yn Nhachwedd 2013 lansiwyd yr archif ddigidol Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig. Cyfranodd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth nifer o ddogfennau gwreiddiol i’r prosiect a gellir eu gweld ar wefan https://www.llyfrgell.cymru/. Ymhlith y deunydd a ddigidwyd mae:
- Yr Athro Hermann Ethé
- Y Wawr (1913-1917)
- Ffoaduriaid o Wlad Belg yn Aberystwyth
- Ifor Leslie Evans a Gwersyll Ruhleben yn yr Almaen
- The Dragon (1914-1918)
- Lluniau o hyfforddi milwrol a rhestri o rai a glwyfwyd ac anrhydeddau
Datblygwyd yr archif gan bartneriaeth o dan arweiniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydag Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, BBC Cymru Wales, Casgliad y Werin Cymru ac archifau a chofnodion lleol sy’n rhan o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru, a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Ariannwyd y prosiect â chymorthdal gan gynllun e-Gynnwys Jisc a gyda chefnogaeth y sefydliadau sy’n bartneriaid.