Casgliad Scott Blair
Prifysgol Aberystwyth
Cedwir Casgliad Scott Blair o lyfrau, pamffledi, cyfnodolion ac adargraffiadau yn Ystafell 420, nesaf at Lyfrgell y Gwyddorau Ffisegol, ar bedwerydd llawr Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, Prifysgol Aberystwyth.
Ar ôl ei farwolaeth yn 1987 rhoddwyd llyfrau a phapurau ymchwil Scott Blair i Gymdeithas Rheoleg Prydain, ac yna fe’u lleolwyd yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Ar ôl i’w weddw farw ym 1988 gwaddolwyd £10,000 i’r Gymdeithas 'er mwyn cynnal a gwella adnoddau llyfrgell ar gyfer y Gymdeithas yng nghyswllt y papurau ymchwil ...'
Mae i’r casgliad 550 o lyfrau, a’r nod yw datblygu ar hyn i greu 'llyfrgell o lenyddiaeth hollol gyfoes ym maes rheoleg ar gyfer yr holl aelodau'. Mae'r casgliad yn cynnwys rhai o gyhoeddiadau Scott Blair ei hun, megis Agricultural Rheology, An Introduction to Industrial Rheology, Measurements of Mind and Matter, Elementary Rheology a Rheology in relation to Pharmacy and Medicine.Yn nifer o’r llyfrau gwelir llawer o nodiadau gan yr awdur. Mae Rheology Abstracts a'r British Society of Rheology Bulletin yn ddau gyfnodolyn a gyhoeddir gan/i’r Gymdeithas ac yn rhan bwysig o’r Casgliad. Mynegai ar bapur sydd i’r Casgliad o adargraffiadau ac y mae’r llyfrau a’r cyfnodolion wedi eu catalogio ar-lein. Gellir eu gweld ar: http://primo.aber.ac.uk/.
Gofalwr swyddogol y casgliad yw’r Athro Simon Cox, Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth, e-bost: sxc@aber.ac.uk
Rheolir y casgliad gan Rheoli Casgliadau, a fydd yn barod i ateb ymholiadau cyffredinol: e-bost: libstore@aber.ac.uk rhif ffôn 01970 621891.
G. W. Scott Blair (1902-1987)
O dras Albanaidd oedd Dr George William Scott Blair er mai yn Weybridge, Lloegr y'i ganwyd ar 23 Gorffennaf 1902. Wedi gadael yr ysgol bu'n astudio Cemeg yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, a'i diwtor yno oedd Syr Cyril Hinshelwood. Ar ôl graddio, fe’i cyflogwyd yn fferyllydd coloid ym Manceinion, lle bu’n gweithio ar ludiogrwydd blawd mewn daliant (viscosity of flour suspensions). Ym 1926 cynigiwyd swydd iddo yn Adran Ffiseg Gorsaf Arbrofol Rothamsted, i weithio ar wyddor priddoedd. Bu yno am ddeng mlynedd.
Am ddeng mlynedd ar hugain wedyn fe’i cyflogwyd gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Llaethyddiaeth, Prifysgol Reading. Bu’n gweithio ar reoleg menyn, caws, a chaws ceulaidd. Bu hefyd yn astudio nodweddion llysnafedd ceg y groth mewn gwartheg, a chanlyniad hynny oedd gallu canfod beichiogrwydd yn gynnar, gan roi canlyniadau cywir 28 dydd ar ôl i fuwch iach feichiogi.
Yn y pen draw, daeth ei waith i sylw geinocolegwyr, ac yn ystod y rhyfel aeth i Ysbyty Radcliffe yn Rhydychen i weithio ar secretiad ceg y groth mewn menywod.
Mae papurau ymchwil Scott Blair yn cynnwys meysydd biorheoleg a seicorheoleg. Ar ôl iddo ymddeol ym 1967 bu'n gweithio yng Nghanolfan Haemophilia Rhydychen, ym maes llif a cheulad gwaed. Ym 1969, dyfarnwyd iddo Fedal Aur Poiseuille Cymdeithas Ryngwladol Haemorheoleg (sef Biorheoleg erbyn hyn) ac ym 1970 derbyniodd Fedal Aur Sylfaenwyr Cymdeithas Rheoleg Prydain.
Ar wahân i’w waith proffesiynol, roedd ei ddiddordebau’n cynnwys cerddoriaeth, ieithoedd modern ac athroniaeth y gwyddorau.
Gwyddor anffurfiad a llif sylwedd yw'r diffiniad o Reoleg. Yn ôl Gwyddoniadur Ffiseg McGraw ‘.....lleiaf byd yw dwysedd mater, hawsaf byd ydyw i'w anffurfio fel arfer ....’. Wrth i dymheredd gynyddu, cynyddu wna gludedd nwy. Ond mae solidau a hylifau yn mynd yn fwy hylif wrth i dymheredd gynyddu. Mae Rheoleg Polymer yn ymdrin â deunyddiau polymerig megis plastigau a rwber synthetig, ac y mae Biorheoleg yn ymdrin â hylifau biolegol, megis gwaed a llysnafedd.
Diffiniad Rheoleg a’i Ddefnydd
Deillia'r gair rheoleg o’r Groeg rhein, sef ‘llifo’. Ceisiodd Scott Blair olrain hanes rheoleg yn ôl i’r Swmeriaid, y Tsieineaid, yr Eifftwyr, a’r Groegiaid. Yn ddiweddarach gwelir cyfeiriadau ato yn nodiadau Leonardo da Vinci a Galileo. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg gwnaed cryn dipyn o waith gan Robert Hooke ar elastigrwydd solidau, ac y mae Isaac Newton yn Principia yn trafod ymateb hylifau i symudiad croesrym cyson.
Mae’r ffordd y mae hylifau yn llifo a solidau yn anffurfio i’w gweld yn glir mewn sawl agwedd o fywyd bob dydd. Mae gwyddor rheoleg yn effeithio ar ansawdd nwyddau megis pâst dannedd, caws hufennog, mayonnaise a hufen iâ, ar y modd y mae marjarîn yn taenu ar fara, a hyd yn oed ar iriad cyhyrau’r corff dynol. Mae prosesu olew craidd a mowldio plastigion yn ddau o’r diwydiannau masnachol sy’n dibynnu’n helaeth ar wyddor rheoleg.
Cymdeithas Rheoleg Prydain
Ym 1929 y cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf erioed o reolegwyr. Yn y cyfarfod hwnnw y mabwysiadwyd y gair ‘rheoleg’ yn swyddogol ac y sefydlwyd Y Gymdeithas Reoleg. Bwriadwyd i hon fod yn Gymdeithas ryngwladol yn wreiddiol, ond datblygu’n Gymdeithas Americanaidd a wnaeth mewn gwirionedd, a ffurfiodd gwledydd eraill eu cymdeithasau eu hunain yn nes ymlaen.
Ni sefydlwyd Cymdeithas Rheoleg Prydain, sy’n elusen gofrestredig, tan 1940. Erbyn hyn mae ganddi dros 600 o aelodau a'i nod yw 'dod â rheolegyddion ynghyd a hyrwyddo gwyddor Rheoleg ymhlith y cyhoedd'. G.W.Scott Blair oedd Llywydd Cymdeithas Rheoleg Prydain rhwng 1949 a 1951.
Archifau
Mae archifau’r Gymdeithas, a gedwir yn yr Ystafell Llyfrau Prin yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth ar gael i aelodau Cyngor Cymdeithas Reoleg Prydain o wneud trefniant ymlaen llaw gyda’r Athro Ken Walters F.R.S., Sefydliad Mathemateg a Gwyddorau Ffisegol, Penglais, PA, e-bost: kew@aber.ac.uk, ffôn 01970 622750.
Ailargraffiadau
Dyma rhestr o ailargraffiadau o erthyglau ar bwnc Rheoleg a gyhoeddwyd eisoes, yn dyddio’n ôl i 1905. Am fwy o wybodaeth, a fyddech cystal â chysylltu â Rheoli Casgliadau , Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar e-bost libstore@aber.ac.uk neu ffôn 01970 621891.