Llyfrgell y Brifysgol: Beth rydyn ni'n ei brynu a pham - atebion i rai cwestiynau cyffredin

Rydym yn aml yn cael cwestiynau ynghylch sut rydym yn penderfynu beth i’w brynu neu beidio ar gyfer casgliadau’r llyfrgell.  Mae llawer o'r rhesymeg y tu ôl i'r hyn a wnawn wedi'i chynnwys yn ein Polisi Casgliadau (Polisi Rheoli Casgliadau : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth) a'n Polisi Rhestr Darllen (Polisi Rhestr Darllen : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth), ond roeddem o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol ychwanegu rhywfaint o gyd-destun ychwanegol i helpu ein defnyddwyr i werthfawrogi rhai o'r materion sy'n ein hwynebu wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Pam nad oes gan y llyfrgell yr erthygl neu’r llyfr sydd arnaf ei angen?

Y peth allweddol i'w nodi yw ein bod yn gweithredu o dan gyllideb gyfyngedig a ddyrannwyd i ni gan y Brifysgol y mae'n rhaid i ni brynu adnoddau ohoni i gefnogi dysgu, addysgu ac ymchwil ar draws yr ystod o bynciau a gynigir yma.  Mae'r ystod hon o bynciau yn parhau i ehangu (rydym wedi ychwanegu Nyrsio a Gwyddor Filfeddygol at ein portffolio o bynciau yn ystod y blynyddoedd diwethaf er enghraifft).  Ni fydd y gyllideb hon byth yn ddigon i brynu popeth, felly mae'n rhaid i ni gyfyngu ar yr hyn a brynwn, gan geisio sicrhau ar yr un pryd bod gan yr ystod eang hon o bynciau a chyrsiau ddeunyddiau priodol i'w cefnogi.

Sut mae'r llyfrgell yn penderfynu beth i'w brynu?

Daw ein prif ffynhonnell o ddethol deunydd ar gyfer llyfrau o argymhellion gan staff academaidd. Daw hyn yn bennaf o'r rhestrau darllen a baratoir ganddynt i gefnogi addysgu.   Yn ogystal â deunydd o restrau darllen, rydym hefyd yn ystyried prynu llyfrau a argymhellir gan staff academaidd neu gan fyfyrwyr y Brifysgol. 

Mae'r cynllun Mwy o Lyfrau (https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/morebooks/) ar gael i fyfyrwyr allu argymell llyfrau i'w prynu gan y llyfrgell.  Os bydd y llyfrgell yn penderfynu prynu llyfrau print y gwneir cais amdanynt fel hyn, archebir un copi benthyca safonol.  O ystyried yr hyn yr ydym eisoes wedi'i amlinellu am ein cyllideb, mae cyfyngiadau ar hyn, ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu yn y ddolen uchod, ond mae'r rhain wedi'u cynllunio i sicrhau y gallwn weinyddu'r cynllun Mwy o Lyfrau mewn modd sy'n deg i'n holl ddefnyddwyr.

Rydym hefyd yn gwario cyllideb y Llyfrgell ar danysgrifiadau i nifer o gyfnodolion a chronfeydd data, eto yn seiliedig yn bennaf ar argymhellion staff academaidd y Brifysgol, ac rydym yn eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i ddysgu, addysgu ac ymchwil yma.

Sut mae'r Llyfrgell yn penderfynu pa lyfrau a chyfnodolion i'w prynu'n electronig a pha rai i'w prynu mewn print?

Rydym yn gweithredu polisi 'Digidol yn Gyntaf', sy’n golygu mai’r hyn sy’n cael ei ffafrio yw darparu gwybodaeth a deunyddiau yn electronig os yw'n fforddiadwy, yn briodol ac yn fanteisiol i'n defnyddwyr. Yr hyn a olygwn wrth hyn yw, os yw adnodd ar gael yn electronig, byddwn yn ceisio ei gaffael yn y fformat hwnnw.

Fodd bynnag, nid yw mor hawdd ag y byddech yn ei ddisgwyl i gael gafael ar e-gopi o lyfr. Oherwydd cyfraith hawlfraint y DU, ni all llyfrgelloedd prifysgolion brynu e-lyfr yn yr un modd ag y gall unigolyn o Amazon er enghraifft. Mae'n ofynnol i ni brynu fersiwn sydd wedi'i thrwyddedu'n benodol ar gyfer defnydd prifysgol. Nid yw'r prisiau ar gyfer yr e-lyfrau hyn yr un peth chwaith. Dyma rai o'r rhwystrau rydym yn eu hwynebu wrth brynu e-lyfrau: 

  • Weithiau ni allwn eu cael mewn fformat electronig. Yn aml, gwelwn nad yw llyfrau academaidd ar gael i sefydliadau i'w trwyddedu fel e-lyfr.
  • Os yw e-lyfr ar gael i'w drwyddedu gan brifysgol, mae bron bob amser yn ddrutach, ac yn aml yn sylweddol ac yn afresymol ddrutach. Gall costau e-lyfrau ar gyfer defnyddiwr sengl fod ddeg gwaith yn fwy na chost yr un llyfr ar bapur.
  • Mae cynnydd mewn prisiau yn gyffredin, a gallant fod yn sydyn a gallant ymddangos yn fympwyol.
  • Mae trwyddedau e-lyfrau yn aml yn ddryslyd i staff a myfyrwyr, ac yn aml yn gyfyngedig. Mae’n bosibl cael ystod eang o drwyddedau, defnyddiwr sengl, tri defnyddiwr, defnyddiwr lluosog, a gall y rhain newid heb unrhyw reswm clir (neu ostyngiad cysylltiedig mewn pris).
  • Weithiau mae cyhoeddwyr yn cynnig eu teitlau yn unig trwy fodel e-werslyfrau, trwy gwmnïau trydydd parti, sy'n trwyddedu cynnwys i'w ddefnyddio gan garfannau penodol a chyfyngedig iawn o fyfyrwyr yn flynyddol. Mae’r dyfynbrisiau ar gyfer y rhain fel rheol gannoedd, neu weithiau filoedd, o weithiau’n fwy na theitl print, a rhaid talu hyn bob blwyddyn er mwyn i garfannau newydd o fyfyrwyr gael mynediad. O ystyried ein cyllideb gyfyngedig, mae'r mathau hyn o fargeinion yn anghynaladwy ar draws yr ystod o bynciau rydym yn eu cefnogi.

Lle nad oes copïau electronig o lyfrau ar gael am y rhesymau uchod, rydym yn prynu copïau papur.

Ni allaf ddod o hyd i'r erthygl/teitl sydd arnaf ei angen yn y llyfrgell, beth alla i ei wneud?

O ystyried cyfyngiadau ein cyllideb, a'r gofynion sy'n cystadlu am y gyllideb, nid yw’n bosibl i ni ddal popeth sydd ei angen ar ein defnyddwyr.  Rydym felly’n cydweithio â llyfrgelloedd a sefydliadau eraill trwy ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau er mwyn i fyfyrwyr allu defnyddio adnoddau nad ydynt ar gael yn lleol. Mae cael adnoddau o lyfrgelloedd eraill yn hytrach na’u prynu yn ddewis cost-effeithiol, yn enwedig os nad oes fawr o alw amdanynt. Gallwch ddarllen mwy am ein gwasanaeth cyflenwi dogfennau yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/documentsupply/

Pam ddim prynu copi o destunau allweddol ar gyfer pob myfyriwr ar fodiwl?

Nid yw ein cyllideb yn rhoi'r gallu i ni brynu copïau o lyfr ar gyfer pob myfyriwr ar unrhyw fodiwl neu gwrs penodol.  Felly, pan fyddwn yn prynu copïau papur o ddeunydd ar restrau darllen, rydym yn gwneud hynny yn unol â chymhareb a amlinellir yn ein Polisi Rhestr Ddarllen. Ar gyfer testunau hanfodol mae hyn yn gweithio allan fel un copi o lyfr ar gyfer pob 15 myfyriwr ar fodiwl.

Rydym yn monitro'r defnydd o'n llyfrau ac yn cofnodi eitemau lle mae galw sylweddol yn cronni trwy geisiadau, a bydd hyn yn ein sbarduno i brynu copïau ychwanegol.  Trwy hyn rydym yn gobeithio gallu ateb y galw am y llyfrau hyn ac ar yr un pryd blaenoriaethu'r defnydd o'n cyllideb gyfyngedig i'r meysydd hynny lle mae ei angen fwyaf.

Gobeithio bod hyn yn amlinellu sut rydym yn caffael deunydd ar gyfer y llyfrgell a pham mae'n rhaid i ni osod terfynau ar yr hyn y gallwn ei brynu, ond rydym yn gobeithio, drwy'r mesurau hyn, a thrwy fonitro'r defnydd o'n casgliadau yn barhaus, y gallwn sicrhau eu bod yn gost-effeithiol ac yn diwallu anghenion dysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol.