Llyfrgell y Brifysgol: Beth rydyn ni'n ei brynu a pham - atebion i rai cwestiynau cyffredin
Rydym yn aml yn cael cwestiynau ynghylch sut rydym yn penderfynu beth i’w brynu neu beidio ar gyfer casgliadau’r llyfrgell. Mae llawer o'r rhesymeg y tu ôl i'r hyn a wnawn wedi'i chynnwys yn ein Polisi Casgliadau (Polisi Rheoli Casgliadau : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth) a'n Polisi Rhestr Darllen (Polisi Rhestr Darllen : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth), ond roeddem o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol ychwanegu rhywfaint o gyd-destun ychwanegol i helpu ein defnyddwyr i werthfawrogi rhai o'r materion sy'n ein hwynebu wrth wneud y penderfyniadau hyn.