Oliver Simon
Mae Casgliad Oliver Simon yn cynnwys rhan helaeth o lyfrgell Oliver Simon a fu’n gweithio fel teipograffydd Gwasg Curwen o ddechrau’r 1920au tan ei farwolaeth yn 1956.
O 1940 ef oedd cadeirydd y Cwmni. Deunydd a argraffwyd gan y Wasg yw elfen gryfaf y casgliad, ond mae hefyd yn cynnwys gweithiau diddorol yn ymwneud ag agweddau ar gynhyrchu llyfrau.
Mae rhai o’r rhain yn eitemau hanesyddol a gasglwyd gan Simon, mae eraill yn gopïau a gyflwynwyd gan deipograffwyr eraill, o Brydain ac Ewrop. Mae llawer o effemera yn ymwneud â’r Double Crown Club.
Mae’r deunydd wedi’i gategoreiddio drwy ddefnyddio cyfuniad o lythrennau a rhifau.
Dyma’r categorïau:
- Deunydd yn ymwneud â Gwasg Curwen
- Llyfrau a argraffwyd gan Wasg Curwen.
- Cyfnodolion a argraffwyd gan Wasg Curwen.
- Llyfrau Saesneg sy’n ymwneud â chelfyddyd llyfrau
- Argraffiadau cain o’r DU ac UDA
- Argraffiadau cain o wledydd Ewropeaidd a deunydd arall mewn ieithoedd tramor
- Effemera amrywiol, llyfrau lloffion ac ati.
Mae pob un o’r llyfrau yn cynnwys labeli perchnogaeth Casgliad Oliver Simon.
Sefydlwyd Gwasg Curwen gan y Parchedig John Curwen yn 1863. Mae gwaith a gyhoeddwyd gan Robin Phillips o'r enw 'Oliver Simon at the Curwen Press' ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen, rhif dosbarth Z232.C98.P5.
Mae fersiwn ar-lein o'r llyfryddiaeth wedi'i diweddaru ar gael yma: https://sinenomine.co.uk/curwen/