Casgliad Horton
Cyflwyniad
Mae Casgliad Horton o Ddeunyddiau i Blant yn cynnwys dros 800 0 eitemau sy'n dangos datblygiad llenyddiaeth plant yn ystod y ddau gan mlynedd o ganol y ddeunawfed ganrif tab 1913. Mae'r eitemau'n darlunio agweddau ar yr argraffu, ysgythru, darlunio, cyhoeddwyr, awduron a themâu a adlewyrchir yn Llenyddiaeth Plant y Ddeunawfed Ganrif a'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
Mae prif ran y Casgliad yn dyddio o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a chafodd ei ffurfio dros gyfnod o ddeugain mlynedd gan y diwedda Ronald Horton a oedd cdiddordeb mewn darlunio yn bennaf ac felly, yn ogystal â deunyddiau printiedig, mae'n cynnwys panoramas, sioeau sbecian, theatrau pobl ifanc, gemau bwrdd, cardiau chwrae wedi'u peintio â llaw a thrugareddau eraill.
Mae'r Casgliad yn cynnwys copïau cydgysylltiol gyda llofnod y ceinlythrennydd Alfred Fairbank ac mae ganddo tua chant o sleidiau lliw o ddarluniadau o weithiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli fel arall.
Mae'r Casgliad yn ei gyflawnrwydd yn adnoddgwerthfawr o ymchwil i lenyddiaeth pobl ifanc, llyfryddiaeth hanesyddol a dadansoddol, cyhoeddi, darlunio, gwisgoedd a drama.
Maent wedi cael eu rhannu i'r categorïau canlynol:
- Chwedlau
- Mythau ac arwyr chwedlonol
- Barddoniaeth; penillion ac odlau; caneuon
- Gwyddorau; gwerslyfrau cyntaf; gramadegau
- Hwiangerddi
- Storïau meithrin a storïau tylwyth teg
- Ffuglen - cyn 1850
- Ffuglen 1850 i 1913
- Llyfrau cyfarwyddyd
- Cyfarwyddyd Crefyddol a'r Beibl
- Bywgraffiad a Hanes
- Teithio a daearyddiaeth
- Gwyddoniaeth a Natur
- Gemau, dylunio a llyfrau lliwio
- Drama
- Llyfrau tegan symudol
- Cyfnodolion a blwyddlyfrau
- Cofroddion a phethau amrywiol
- Comics ceiniog
- Almanaciau; llyfrau pen-blwydd; cardiau
- Deunyddiau Cysylltiedig h.y. printiau; sleidiau; darluniau unigol.