S.H. Fergus Johnston
Roedd S.H. Fergus Johnston (1909-1991) yn ddarlithydd ac yn Athro yn Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth am dros ddeugain mlynedd. Ei ddiddordeb pennaf oedd hanes milwrol, ac yn dilyn ei farwolaeth yn 1986 rhoddwyd mwyafrif ei gasgliad o 1,500 o lyfrau i’r Brifysgol. Er bod y cyfrolau cynharaf yn dyddio o’r 17eg, mae’r casgliad yn arbennig o gryf o ran deunydd cyfoes sy’n ymwneud â Rhyfeloedd Napoleon a brwydrau trefedigaethol cyfnod y Frenhines Victoria. Mae yna hefyd amrywiaeth eang o gyfrolau gwerthfawr ar hanesion catrodau. Ceir hefyd yn y casgliad nifer o gyfrolau ac iddynt gysylltiadau diddorol: rhai o’r llyfrau wedi bod yn rhan o lyfrgell yr hanesydd Charles Oman o Rydychen, tra bu eraill yn eiddo i ffigurau milwrol a llyngesol amlwg.