Casgliad Astudio Effeithiol
Cyflwyniad
Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Bydd y Casgliad Astudio Effeithiol yn eich helpu i:
- Wneud y gorau o’ch amser astudio
- Trefnu eich astudiaethau’n effeithiol
- Trefnu gwybodaeth ar gyfer ymchwilio’n effeithiol
- Defnyddio’r llyfrau a gewch o’r Llyfrgell yn effeithiol
- Ysgrifennu eich traethodau, traethodau estynedig neu draethodau ymchwil yn effeithiol
- Datblygu defnydd clir a chywir o’r Saesneg
- Llunio llyfryddiaeth
Lleoliad
Lleolir y Casgliadau Astudiaeth Effeithiol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.
Mae pob eitem yn y Casgliad Astudio Effeithiol yn cael ei hychwanegu at gatalog y Llyfrgell, Primo, ac maent yn cynnwys y rhagddodiad STUDY yn y nod dosbarth.