Canolfan Dogfennau Ewropeaidd
Cyflwyniad
Mae Canolfannau Dogfennau Ewropeaidd (CDE) yn ffurfio rhwydwaith o ganolfannau gwybodaeth a sefydlwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yn 1963 i gefnogi astudio, dysgu ac ymchwil ar lefel prifysgol. Yn y Deyrnas Gyfunol, sefydlwyd y canolfannau hyn yn y 1970au, ar ôl i’r DU ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd. Fe’u lleolir mewn prifysgolion er mwyn i staff academaidd a myfyrwyr fedru cael at ddogfennau’r Undeb Ewropeaidd yn hawdd ac fe’u cefnogir yn hyn o beth gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae dros 40 o ganolfannau o’r fath yn y Deyrnas Gyfunol, a dwy ohonynt yng Nghymru – yma yn Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gall Canolfannau Dogfennau Ewropeaidd eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am y pynciau canlynol:
- Cyfraith Ewrop
- Polisïau a sefydliadau Ewrop
- Integreiddio Ewropeaidd
Lleoliad a Mynediad
Mae'r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd yn Aberystwyth wedi'i lleoli ar Lawr F Llyfrgell Llyfrgell Hugh Owen. Gall staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ei defnyddio a hefyd bobl sydd am gael gwybodaeth am yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r holl ddeunyddiau yn y GDE yn cael eu cynnwys yng nghatalog y llyfrgell Primo a rhoddir y rhagddodiad EDC iddynt a’r rhif dosbarth KW. Mae’r deunyddiau ar gael i gyfeirio atynt yn unig.
Adnoddau
Sefydlwyd CDE Aberystwyth yn hwyrach na’r rhan fwyaf o’r canolfannau – yn 1996. Ond datblygiad ydyw ar y Ganolfan Gyfeirio Ewropeaidd a fu’n bodoli ers y 1970au. Mae’r rhan fwyaf o’r prif destunau yn dyddio’n ôl i ganol y 1970au a chyn hynny, ond ers 1996, mae’r GDE wedi derbyn y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau swyddogol a lunnir gan brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, megis y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r rhain yn cynnwys testunau deddfwriaethol, adroddiadau ac ystadegau ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd ac integreiddio Ewropeaidd.
Mae’r dogfennau swyddogol sydd ar gael yn y GDE yn cynnwys:
- Cyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd (Official Journal of the European Communities) http://eur-lex.europa.eu/oj/direct-access.html
- Deddfwriaeth (cyfres L) sy’n cynnwys testun cyflawn rheoliadau, cyfarwyddebau a phenderfyniadau. Cyhoeddir yn ddyddiol. http://eur-lex.europa.eu/oj/direct-access.html
- Hysbysiadau Gwybodaeth (cyfres C) sy’n cynnwys Gwybodaeth a Hysbysiadau megis Barn y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, cynigion ar gyfer deddfwriaeth a gwybodaeth ynglyn â’r Comisiwn. Cyhoeddir yn ddyddiol. http://eur-lex.europa.eu/oj/direct-access.html
- Atodiad i’r Cyfnodolyn Swyddogol (cyfres S) sy’n cynnwys manylion ynghylch yr holl gyflenwad cyhoeddus a chontractau gwaith sydd ar gael ar gyfer tendr yn y Gymuned Ewropeaidd. http://www.ojeu.eu/
- Dogfennau Gweithio’r Comisiwn (Dogfennau COM) sy’n cynnwys testunau’r cynigion ar gyfer deddfwriaeth a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol. http://ec.europa.eu/transparency/regdoc/index.cfm?fuseaction=list&coteId=1&version=ALL
- Trafodaethau ac adroddiadau Senedd Ewrop http://www.europarl.europa.eu/plenary/en/home.html
- Adroddiad cyffredinol a bwletin yr Undeb Ewropeaidd http://europa.eu/european-union/documents-publications/reports-booklets/general-report_en
- Eurostat Mae Swyddfa Ystadegau’r Cymunedau Ewropeaidd yn cynhyrchu amrywiaeth eang o ddata ystadegol am yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ymwneud â phynciau fel yr economi a chyllid, poblogaeth ac amgylchiadau cymdeithasol, masnach allanol, yr amgylchedd ac ymchwil a datblygu.
Mae mwy a mwy o wybodaeth Ewropeaidd bellach ar gael yn electronig, a llawer ohono ar gael ar y we, e.e.:
- European Sources Online
Mae hon yn darparu gwybodaeth ar sefydliadau a gweithgareddau’r Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac ar faterion sydd o bwys i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. - Europa
Dyma weinydd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n adnodd hanfodol ar gyfer pawb sy’n astudio materion yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys testun cyflawn nifer fawr o ddogfennau swyddogol yr UE, briffiadau newyddion dyddiol, cysylltiadau â thudalennau cartref holl sefydliadau’r UE a llawer mwy. - EUR-Lex
Yma fe gaiff y cyhoedd fynediad i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys testun cyflawn cytundebau cyfunol a’r holl ddeddfwriaeth sydd mewn grym. Ceir yma hefyd destun cyflawn cyfresi C ac L y Cyfnodolyn Swyddogol ar gyfer y 45 diwrnod diwethaf. - PreLex
Mae’r safle hwn yn eich galluogi i olrhain cynnydd cynigion a mentrau deddfwriaethol yr UE. - Summaries of European Legisation
Crynodeb o’r prif fesurau a gweithdrefnau deddfwriaethol ar gyfer pob un o weithgareddau’r Undeb Ewropeaidd. - European Court of Justice (CURIA)
Mae’n darparu testun cyflawn trafodaethau’r Llys Cyfiawnder a Llys Ewropeaidd y Gwrandawiad Cyntaf ac Achosion Staff ers Mehefin 1997, yn ogystal â datganiadau i’r wasg sy’n ymwneud â phenderfyniadau pwysig. - EU Bookshop
Siop un-stop ar gyfer amryw gyhoeddiadau sefydliadau, asiantaethau a chyrff eraill yn Ewrop. - EU News
Cyhoeddiad misol sy’n rhoi manylion am weithgareddau’r Comisiwn Ewropeaidd a holl sefydliadau eraill y Comisiwn. Mae’r GDE yn dal copïau hyd at ddiwedd 2005. - Fact Sheets on the European Union
A range of fact sheets available to read online or download in PDF format.
Cysylltiadau a Chymorth
Anita Saycell
(01970 62) 1867
aiv@aber.ac.uk