Cyflwyno rhoddion i gasgliadau'r Brifysgol
Casgliadau o ddeunydd printiedig a gynigir i'r Gwasanaethau Gwybodaethau
Yn draddodiadol y mae wedi bod yn swyddogaeth arferol llyfrgell brifysgol i dderbyn rhoddion o ddeunyddiau gan gyn-fyfyrwyr, staff neu unigolion amlwg eraill a chanddynt gysylltiad â'r sefydliad. Y mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn hapus i barhau i gyflawni'r swyddogaeth hon, ond y mae cyfyngiadau ar le i'w storio ac ar adnoddau staff i'w prosesu yn golygu na ellir derbyn deunydd rhoddedig yn ddiamod mwyach. Bwriedir i'r canlynol fod yn ganllawiau cyffredinol; nid eu bwriad yw bod yn hollgynhwysol a bydd pob cynnig yn cael ei asesu yng ngoleuni'r amgylchiadau sy'n berthnasol ar y pryd. Bydd pwysigrwydd y rhoddwr a'u perthynas â'r brifysgol hefyd yn ystyriaeth bwysig wrth asesu unrhyw gynnig.
Egwyddorion sylfaenol:
Fel arfer, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth ond yn derbyn rhoddion o lyfrau a chyfnodolion ar y ddealltwriaeth glir eu bod yn rhydd i'w prosesu fel y gwelant orau, yn unol â'u rôl o gefnogi anghenion dysgu ac ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir cadw deunydd gyda'i gilydd mewn casgliad ar wahân wedi ei labelu.
Gall prosesu olygu un neu fwy o'r canlynol:
-
ychwanegiad at stoc y Llyfrgell
-
rhodd i lyfrgell leol arall (megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
-
rhodd i Book Aid International, ar gyfer defnydd posibl yn llyfrgelloedd y Trydydd Byd
-
rhodd i elusen, megis OXFAM
-
arwerthiant mewn llyfrgell PA
-
gwerthu i lyfrwerthwr
-
ailgylchu
-
dychwelyd eitemau nad oes eu heisiau i'r rhoddwr (os yw'n dymuno hynny)
Canllawiau a ddefnyddir i asesi deunydd rhoddedig:
Y mae rhoddion o lyfrau a chyfnodolion yn ddengar os:
-
ydynt ar bynciau y mae gan y Brifysgol adran neu gyrsiau perthnasol ar eu cyfer.
-
ydynt yn gopïau ychwanegol o werslyfrau cyfredol
-
ydynt wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar a'u bod mewn cyflwr corfforol da iawn
-
ydynt yn llenwi bylchau mewn cyfresi o gyfnodolion
-
ydynt yn waith o ysgolheictod yn y Gymraeg
-
cyhoeddwyd hwy cyn 1850
-
ydynt yn enghreifftiau o argraffu cywrain gan weisg preifat
Nid yw rhoddion o lyfrau a chyfnodolion yn ddengar fel arfer os:
-
ydynt ar bynciau nas cynrychiolir gan adran Brifysgol
-
ydynt yn hen argraffiadau o werslyfrau, sydd bellach wedi'u disodli.
-
yw cyfnodolion yn dyddyblu daliadau presennol
-
yw cyfnodolion yn argraffiadau anghyflawn o deitlau nad ydynt mewn stoc
-
yw eitemau mewn cyflwr corfforol gwael:
-
Tudalennau yn dangos arwyddion o leithder, llwydni neu sbotio
-
Y clawr yn rhydd neu wedi torri
-
Tudalennau yn rhydd, wedi torri neu ar goll
-
Nodiadau mewn llawysgrifen neu danlinellu yn y testun
-
Marciau goramlwg perchenogaeth
-
Yn dod o lyfrgell arall, gyda'u stamp perchenogaeth eu hunain
Croesawir cymorth bob amser gan staff academaidd wrth asesu deunydd rhoddedig, ac fe'i ceisir bob tro y bydd yn ymarferol.