Becweddau Sylweddol
Mae pob eitem yn y casgliadau yma yn cael ei hychwanegy at Primo- Catalog y Llyfrgell.
Casgliad John Challinor
Rhoddodd John Challinor, a oedd gynt yn uwch-ddarlithydd yn yr Adran Ddaeareg, nifer fawr o lyfrau i’r Llyfrgell dros y blynyddoedd, ac yn y diwedd, yn 1988, cyflwynodd ei gasgliad personol o lyfrau ar ddaeareg, topograffeg ac astudiaethau natur i’r Llyfrgell. Mae llawer o’r llyfrau o ddiddordeb hynafiaethol neu yn glasuron yn eu maes. Nid yw’r llyfrau gyda’i gilydd ar silffoedd ond mae labeli perchnogaeth Challimor ar bob un ohonynt.
Casgliad Swinburne
Sefydlwyd yn ffurfiol yn 1970, pan osodwyd nifer o gyhoeddiadau cynnar o weithiau A. C. Swinburne, gan gynnwys rhai cyfrolau a roddodd Swinburne i George Powell, yn yr Ystafell Llyfrau Prin. Ers hynny, mae’r casgliad wedi ei ehangu i gynnwys cyhoeddiadau printiedig cain cynnar a rhai mwy diweddar o gynyrchiadau Swinburne ac erbyn hyn mae’n cynnwys oddeutu 100 cyfrol.
Casgliad Ken Robertson
Cafwyd casgliad sylweddol o lyfrau a chyfnodolion ym maes astudiaeth cudd-wybodaeth a therfysgaeth gan Dr Ken Robertson, cyn Gyfarwyddwr Astudiaethau yn yr Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd a Rhyngwladol i Raddedigion ym Mhrifysgol Reading. Nid yw’r llyfrau wedi eu gosod ar silffoedd gyda’i gilydd ond mae labeli perchnogaeth K. G. Robertson ar bob un ohonynt.
Casgliad J. B. Willans
Bu Willans yn aelod o Lys a Chyngor y Brifysgol a rhoddodd lyfrau i’r Llyfrgell dros gyfnod o hanner can mlynedd. Ei rodd bwysicaf oedd cyflwyno mwy na 300 o gyfrolau o lyfrgell Francis Nicholson, yr adaregwr enwog.
Casgliad Raymond Durgnat
Beirniad enwog ym myd y ffilmiau sydd wedi cyflwyno lyfrau a chyfnodolion o’i gasgliad personol i’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Nid yw’r eitemau hyn wedi’u gosod ar silffoedd gyda’i gilydd ond mae labeli perchnogaeth Raymond Durgnat ar bob un ohonynt.
Casgliad Pamffledi Duff
Oddeutu 1000 o bamffledi a gyhoeddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif ar awduron Groeg a Lladin, a gasglwyd ac a gyflwynwyd i’r Llyfrgell gan Arnold Duff, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Glasuron nes iddo ymddeol yn 1968.
Casgliad John Camden Hotten
Tua 150 o gyfrolau a gyhoeddwyd gan Hotten rhwng 1856 a’i farwolaeth yn 1873 pan gymerwyd y busnes gan Chatto & Windus. Mae casgliadau Powell a Swinburne yn cynnwys rhai o gyhoeddiadau Hotten ac er 1971 mae’r Llyfrgell wedi medru ychwanegu’n rheolaidd at y casgliad sydd erbyn hyn yn cynnwys oddeutu 150 o gyfrolau.
Casgliad Richard Brinkley
Am flynyddoedd lawer, bu Richard Brinkley, llyfrgarwr brwd a phregethwr lleyg, yn ysgolor o lyfrgellydd yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Mae ei rodd yn cynnwys ystod o ddeunyddiau ar hanes eglwysig a chrefydd.