Casgliadau Appleton
Mae Casgliad Appleton yn cynnwys enghreifftiau o waith argraffu lliw a rhwymiad cloriau cyhoeddwyr o tua 1840 i 1890. Mae’n cynrychioli arwyddocâd y cyfnod lle ceir dylunio llawn asbri a defnydd helaeth o argraffu lluosog i argraffu lliwiau ar wahân gan greu gwaith gorffenedig gwych. Yr un doreth o ddyfais sydd i’w gweld yn y dulliau rhwymo hefyd: rhwymiadau lliain wedi’u gwasgnodi’n gywrain â gorchuddion lliw o bapur neu liain, ac arbrofi egsotig â chloriau mewn cerfwedd ddofn ar ledr, pren, a mwydion papur.
Cynrychiolir prif argraffwyr lliw a dylunwyr y cyfnod yn y casgliad: Baxter, Fawcett, Owen Jones, Noel Humphreys, Leighton, ynghŷd ag enghreifftiau o waith argraffu masnachol. Er y ceir enghreifftiau o 1829 i 1899, mae’r rhan fwyaf o deitlau’n dyddio o 1845 i 1885 gan gyrraedd y brig tua 1860.
Prynwyd y casgliad oddi wrth Tony Appleton, gwerthwr llyfrau o Brighton a arbenigai mewn teipograffeg ac argraffu. Fe’i casglodd i gynrychioli gwaith argraffu lliw a rhwymiadau cyhoeddwyr a lofnodwyd gan y dylunwyr o Oes Victoria. Ers hynny, trwy brynu darnau dethol, cynyddwyd maint y casgliad o 300 eitem i ryw 450 o eitemau. Nid oes eitemau’n cael eu hychwanegu i’r casgliad bellach.