Ystafelloedd Astudio Unigol (Carelau) - Llyfrgell Hugh Owen
Mae nifer o ystafelloedd astudio ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen sydd ar gael i fyfyrwyr yn unig ar gyfer astudiaeth dawel unigol.
Mae'r ystafelloedd hyn:
- yn rhad ac am ddim i'w defnyddio
- gyda chyfrifiadur neu hwb monitor ynddynt
- gyda wifi
- yn addas ar gyfer defnydd unigol yn unig
- yn addas ar gyfer astudio tawel yn unig gan nad yw'r ystafelloedd yn wrthsain
- gellir eu rhagarchebu am hyd at 4 awr
Gallwch weld argaeledd ystafelloedd ac archebu lle yma
Ni allwch archebu ystafell benodol. Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y rhai cyntaf sydd ar gael ar gyfer yr amser archebu.
Anfonir gwahoddiad calendr atoch a bydd eich gwybodaeth archebu i'w weld ar y sgrin tu allan i'r drws.
Os nad ydych wedi rhag-archebu ac mae'r ystafell yn wag gellir clicio ar Gyfarfod nawr i archebu ar unwaith
Gwelir lleoliadau ystafelloedd Cynllun Llawr F - Llyfrgell Hugh Owen
Wrth ddefnyddio'r ystafelloedd hyn, gofynnir i chi arsylwi'r canlynol:
- Polisi Bwyd a Diod y GG
- Astudio tawel yn unig. Nid yw'r ystafelloedd yn wrthsain felly nid ydynt yn addas ar gyfer cymrid rhan mewn sesiynau dysgu ar-lein neu gyfarfodydd
- Ni chaniateir dyfeisiau trydanol (ar wahân i liniaduron)
- Os ydych chi'n defnyddio clustffonau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu clywed y larwm tân
- Gadewch yr ystafell yn brydlon
- Gadewch yr ystafell yn lân ac yn daclus a gwaredwch bob eitem gan gynnwys sbwriel ar ddiwedd eich bwciad