Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) - Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Mae eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn rhoi mynediad i:
- e-bost Prifysgol a storfa ffeiliau
- cyfleusterau cyfrifiadurol ar y campws
- cysylltu eich dyfeisiau eich hun â rhwydwaith y Brifysgol
- gwybodaeth ar eich pwnc astudio
- Blackboard, amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol
- eich cyfrif llyfrgell i reoli eich benthyciadau
- cyhoeddi gweddalennau ar weinyddwr y Brifysgol
- ApAber - rhad ac am ddim oddi wrth eich App Store
Bydd modd i chi actifadu eich cyfrif TG Prifysgol cyn i’ch cwrs ddechrau. Bydd arnoch angen eich rhif myfyriwr a gallwch gael hwn o’r Swyddfa Gyffredinol Dysgu Gydol Oes.
Mae eich Cerdyn Aber yn cael ei ddefnyddio:
- fel eich cerdyn adnabod myfyriwr
- i brynu bwyd ym mannau bwyta’r Brifysgol
- ar gyfer benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
- i cael mynediad i'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
- ar gyfer argraffu, llungopïo a sganio
- fel eich cerdyn Ganolfan Chwaraeon
Unwaith y byddwch wedi actifadu eich cyfrif TG dylech wneud cais am eich Cerdyn Aber arlein fel ei fod yn barod i chi pan fyddwch yn cyrraedd y campws.
Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Primo (adnoddau electronig)
- Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn tanysgrifio i amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth ar-lein gan gynnwys e-gyfnodolion ac e-lyfrau sydd hefyd ar gael oddi ar y campws. Mae’r rhain ar gael drwy Primo http://primo.aber.ac.uk
- Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r adnoddau hyn oddi ar y campws yn ein Cwestiwn Cyffredin ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws
Cyfleusterau'r llyfrgell
- Mae Primo – catalog y llyfrgell ar gael ar y campws ac oddi arno ar: http://primo.aber.ac.uk
- Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi â'ch eich enw defnyddiwr a chyfrinair y Brifysgol i ddefnyddio eich cyfrif llyfrgell er mwyn i chi allu cadw llyfrau neu’u hadnewyddu ar-lein.
- Ceir gwybodaeth am ddefnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol a benthyca o’n casgliadau ar ein gweddalennau Llyfrgell
- Mae cyngor penodol ar ddefnyddio ein hadnoddau ar gael yng Nghanllaw Llyfrgell LibGuide Dysgu Gydol Oes.
- Yn ogystal â defnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol gallwch hefyd ddefnyddio adnoddau llyfrgell mewn llyfrgelloedd eraill.