Hygyrchedd

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) wedi ymrwymo i ddarparu mynediad cyfartal i'n hadnoddau a'n gwasanaethau i bob defnyddiwr.

Defnyddio ein gofodau

Defnyddio ein hadnoddau

  • E-adnoddau - Efallai y gwelwch un neu fwy o'r nodweddion hyn ar gael wrth ddarllen e-lyfr neu erthygl mewn cyfnodolyn ar-lein:
    • Cefndiroedd â lliw
    • Y gallu i addu maint ffont ac wyneb ffont
    • bylchau llythrennau, geiriau, neu linellau
    • darllenydd sgrin glywadwy
      Am gymorth i gael mynediad at a defnyddio e-adnoddau, cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc
  • Mae'r gwasanaeth Clicio a Chasglu yn galluogi defnyddwyr i roi cais am eitemau o'r Gwyddorau Ffisegol a Llyfrgelloedd Hugh Owen fel y gallant eu casglu o Lefel D Llyfrgell Hugh Owen. Fel arfer, darperir y Gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gyfer eitemau nad ydynt ar gael ar-lein. Os oes angen copi corfforol arnoch am resymau hygyrchedd yn hytrach na defnyddio copi electronig, gwnewch nodyn yn y maes sylwadau wrth osod eich cais.
    Gosodir eitemau yn ein Loceri Casgliad Llyfrgell i ddefnyddwyr eu casglu.  Os oes angen locer arnoch ar uchder hygyrch, gwnewch nodyn yn y maes sylwadau wrth osod eich cais.
  • Mae'r gwasanaeth Benthyciad Post yn galluogi defnyddwyr nad ydynt wedi'u lleoli yn Aberystwyth i ofyn am i eitemau gael eu postio i'w cyfeiriad cartref.
  • Gellir benthyg troshaenau lliw a chwyddwyr o'r Ddesg Ymholiadau i'w defnyddio ym mhob llyfrgell
  • Mae sganio OCR ar gael ar bob argraffydd/copïwr ar y campws.
  • Mae amrywiaeth o offer ar gael i'w fenthyg o Ddesg Ymholiadau Llyfrgell Hugh Owen
  • Mae amrywiaeth o feddalwedd ar gael ar y cyfrifiaduron yn y llyfrgelloedd a'r ystafelloedd cyfrifiadurol.
  • Mae gan Brifysgol Aberystwyth Drwydded Addysg Uwch CLA, sy'n ein galluogi i wneud copïau hygyrch neu ymofyn am (gan ddeiliaid hawlfraint) ar gyfer defnyddwyr anabl eraill sydd â nam ar eu golwg a defnyddwyr anabl eraill os nad oes fersiwn hygyrch addas ar gael i'w phrynu.

Defnyddio ein gwasanaethau

  • Darperir systemau cymorth clyw ar bob pwynt gwasanaeth ac mewn llawer o Ystafelloedd Ddysgu a Amserlennir yn Ganolog. I wirio am y math o system mewn ystafell addysgu benodol, chwiliwch am wybodaeth ar gyfer yr ystafell honno a dewiswch y tab Hygyrchedd.
  • Mae sganiwr llyfr Freedom a chwyddhadur Pro ar gael i’w defnyddio yn Ystafell Grŵp 9.
  • One-to-One clinics are available to help users with problems using the facilities we provide, for example electronic resources, Blackboard, Microsoft Office or other software.
  • Mae clinigau un-i-un ar gael i helpu defnyddwyr sydd â phroblemau wrth ddefnyddio'r cyfleusterau a ddarparwn, er enghraifft adnoddau electronig, Blackboard, Microsoft Office neu feddalwedd arall.

Rydym yn croesawu eich adborth ar ba mor hygyrch rydych chi'n dod o hyd i'n gwasanaethau. Os gwelwch yn dda defnyddiwch ein ffurflen adborth.