Gosod Magnetomedr Cwantwm ym Mhwllpeiran

18 Mawrth 2025
Mae IBERS yn falch o gael cyhoeddi y bydd Arolwg Daearegol Prydain (BGS) yn gosod magnetomedr cwantwm yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran ym mis Mawrth 2025. Bydd yr offeryn arloesol hwn yn cyfrannu at ymchwil i dywydd y gofod a maes magnetig y Ddaear, yn rhan o'r rhaglen Synhwyro Cwantwm ar gyfer Gwyddorau'r Amgylchedd. Mae'r gwaith hwn yn atgyfnerthu’r gwaith cydweithredol rhwng y BGS, Prifysgol Aberystwyth, RAL Space, a Phrifysgol Ystrad Clud.
Bydd y gwaith gosod yn digwydd mewn dau gam. Ddydd Mawrth, 25 Mawrth, bydd y BGS yn gosod paneli solar, gwifrau cysylltiol a’r cynhwysydd diddos y cedwir y synhwyrydd ynddo. Pan fydd y seilwaith yn barod, bydd ymchwilwyr o Brifysgol Ystrad Clud yn gosod y magnetomedr cwantwm ei hun ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Bydd yr offer wedyn yn dechrau ffrydio data ar y pryd trwy'r rhwydwaith 4G, a bydd y data hwnnw’n cael ei arddangos ar wefan y BGS.
Mae magnetomedrau cwantwm yn offerynnau sensitif iawn a ddefnyddir i ganfod amrywiadau ym maes magnetig y Ddaear, a hynny â chywirdeb hynod fanwl. Bydd y data a gesglir ym Mhwllpeiran yn cefnogi astudiaethau gwyddonol sy’n monitro tywydd y gofod a gwaith ymchwil geoffisegol, gan roi golwg gwerthfawr ar sut mae’r haul yn effeithio ar amgylchedd y Ddaear. Bydd y synhwyrydd newydd yn darparu mesur hynod fanwl bob eiliad am y ddwy flynedd nesaf tra bydd y prosiect yn rhedeg.
Mae’r BGS wedi bod yn gweithio'n agos gydag IBERS ac Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth i hwyluso'r gwaith gosod hwn. Dewiswyd y safle ym Mhwllpeiran ar ôl llwyddiant astudiaeth magnetotelwrig a gynhaliwyd dros chwe wythnos yn 2023 oherwydd ei fod mor addas o ran canfod signalau magnetig â chyn lleied o ymyriant â phosib. Dewiswyd y lleoliad i lenwi 'bwlch' sylweddol yn y wybodaeth a gesglir am y maes magnetig rhwng yr arsyllfeydd geomagnetig presennol yn Nyfnaint a Gororau'r Alban.
Mae’r BGS yn awyddus i feithrin cyswllt â chymuned y brifysgol a'r cyhoedd ehangach ynglŷn â'r prosiect hwn. Mae croeso i staff a myfyrwyr sydd â diddordeb ymweld â'r safle yn ystod y broses osod i ddysgu mwy am y dechnoleg a'i chymwysiadau. Mae'r tîm gosod hyd yn oed wedi gwahodd ymwelwyr i gynorthwyo â rhai tasgau ymarferol, megis y gwaith palu i osod y sylfeini ar gyfer y synhwyrydd!
Bydd y timau cyfathrebu yn IBERS a’r BGS yn rhannu’r diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol, a byddant yn parhau i roi gwybod am hynt y datblygiad ymchwil cyffrous hwn. Cadwch lygad ar ein tudalennau newyddion am fwy o ddiweddariadau.
Am fwy o wybodaeth am brosiect y magnetomedr cwantwm, cysylltwch ag IBERS neu ewch i Wefan y BGS.