Ymchwilwyr IBERS yn Archwilio sut mae'r Gwynt a Grymoedd Mecanyddol yn Siapio Gwydnwch Cnydau

12 Mawrth 2025

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig), Prifysgol Aberystwyth, wedi taflu goleuni ar sut mae grymoedd mecanyddol fel y gwynt, glaw a chyffyrddiad yn dylanwadu ar dyfiant a gwydnwch planhigion. Mae'r adolygiad, a gyhoeddwyd yn BMC Biology, yn archwilio proses thigmomorphogenesis- sef y ffordd mae planhigion yn ymateb i ysgogiad mecanyddol - yn enwedig mewn cnydau grawn.

Sut Mae Planhigion Ymateb i Straen Mecanyddol?

Er bod planhigion yn aml yn cael eu hystyried yn organebau goddefol, mae'n wir eu bod yn synhwyro ac yn ymateb i'w hamgylchedd yn weithredol. Gall ysgogiad mecanyddol newid tyfiant planhigion, gan sbarduno ymatebion moleciwlaidd a ffisiolegol sy'n arwain at goesynnau byrrach, cryfach a mwy o wydnwch i wynebu heriau amgylcheddol fel gwyntoedd cryfion a glaw trwm.

"Mae planhigion yn rhyngweithio â'u hamgylchedd trwy'r amser," meddai Dr Maurice Bosch, un o brif awduron yr astudiaeth. "Mae deall sut maen nhw'n ymateb i rymoedd mecanyddol yn allweddol er mwyn ddatblygu cnydau cryfach a mwy gwydn, yn enwedig yn wyneb y newid yn yr hinsawdd ."

Goblygiadau ar gyfer Amaethyddiaeth Gynaliadwy

Gan fod digwyddiadau tywydd eithafol yn digwydd yn fwy aml, mae gwella gwydnwch cnydau yn hanfodol ar gyfer diogelwch bwyd byd-eang. Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at sut y gellir defnyddio ysgogiad mecanyddol i:

  • Gryfhau strwythurau planhigion trwy gynyddu trwch coesynnau a’u gwneud yn fyrrach gan wneud cnydau yn llai agored i orwedd.
  • Sbarduno llwybrau moleciwlaidd sy'n golygu eu bod yn goddef straen yn well.
  • Lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol, a allai arwain at arferion ffermio mwy cynaliadwy.

Ai Ysgogiad Mecanyddol fydd Ddyfodol Ffermio?

Gellid addasu technegau fel ysgogiad mecanyddol rheoledig, a ddefnyddir eisoes mewn garddwriaeth, ar gyfer cynhyrchu cnydau ar raddfa fawr. Mae dulliau ffermio traddodiadol fel yr arfer "mugifumi" yn Japan (sathru ar eginblanhigion i'w cryfhau) a dulliau ffermio integredig fel cyd-gynhyrchu reis a hwyaid yn dangos manteision posib straen mecanyddol mewn amaethyddiaeth.

"Dim ond dechrau deall sut y gallwn ddefnyddio ysgogiad mecanyddol i wella gwytnwch a chynaliadwyedd cnydau rydyn ni," ychwanegodd Dr. Bosch. "Gallai ymchwil yn y dyfodol edrych ar ffordd o gymhwyso'r egwyddorion hyn ar raddfa i fod o fudd i gynhyrchiad bwyd yn fyd-eang ."

Darllenwch yr Astudiaeth Lawn

Mae'r adolygiad llawn, "Mechanical Stimulation in Plants: Molecular Insights, Morphological Adaptations, and Agricultural Applications in Monocots", ar gael yn BMC Biology. Mae'r papur ar gael yma: [https://bmcbiol.biomedcentral.com/articles/10.1186/s12915 -025 -02157 -3]